arallBydd pob plentyn o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael cynnig brechlyn ffliw chwistrell trwyn di-boen yn ystod tymor yr Hydref. Mae’r brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn plant rhag y ffliw a'r heintiau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r ffliw. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau eraill o’r teulu a’r gymuned ehangach sy’n agored i niwed.
Mae nyrsys ysgol hefyd yn cyflwyno rhaglen o frechiadau wedi'u targedu i bob plentyn ym mlynyddoedd wyth a naw yn ysgolion uwchradd Gogledd Cymru. Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn cael y brechiadau hyn i helpu i'w hamddiffyn rhag canserau a chlefydau eraill.
Byddwch yn barod am wybodaeth o'r ysgol, gan gynnwys ffurflen ganiatâd, ac anogwch eich plant i gael eu brechu yn un o'n clinigau yn yr ysgol. Os ydych chi wedi methu apwyntiad, cysylltwch â'ch nyrs ysgol neu'ch meddygfa am gyngor.
Mae pob myfyriwr ym Mlwyddyn 8 yn cael cynnig brechlyn HPV.
Mae pob myfyriwr ym Mlwyddyn 9 yn cael cynnig brechlyn MenACWY a brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 i bobl ifanc yn eu harddegau.
Dylai pob oedolyn ifanc hefyd sicrhau y cânt eu hamddiffyn yn llawn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Mae angen dau ddos o’r brechlyn MMR i sicrhau y cewch chi’r amddiffyniad gorau rhag y clefydau hyn. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y ddau frechiad cyn dechrau’r ysgol, ond efallai y gwnaiff eich nyrs ysgol neu aelod o’n tîm imiwneiddio eich gwahodd i gael y brechlyn hwn os yw ein cofnodion yn dynodi nad ydych chi wedi cael y ddau ddos.
Efallai y bydd eich nyrs ysgol neu eich tîm imiwneiddio ysgol hefyd yn rhoi'r cyfle i chi ddal i fyny â brechlynnau eraill os yw eich cofnod yn anghyflawn.
Bob hydref, bydd pob plentyn o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael cynnig brechlyn ffliw chwistrell trwyn di-boen. Mae’r brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn plant rhag y ffliw a'r heintiau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r ffliw. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau eraill o’r teulu a’r gymuned ehangach sy’n agored i niwed.
Efallai y bydd plant oedran ysgol sydd â chyflwr iechyd hirdymor hefyd yn cael cynnig brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y gwahoddiadau hyn i sicrhau bod eich plentyn neu'ch plant yn gwella eu hamddiffyniad rhag afiechydon difrifol.