Neidio i'r prif gynnwy

Bwydo ar y fron wrth fynd allan yng Ngogledd Cymru

Mae'r gyfraith yn amddiffyn hawl mam i fwydo ei babi ar y fron mewn mannau cyhoeddus. O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae’n rhaid i holl fusnesau ganiatâu i ferched fwydo ar y fron yn eu hadeiladau os ydyn nhw yn dewis gwneud felly.

Mae croeso i bob mam fwydo ei babi ar y fron ar draws holl adeiladau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru. Golyga hyn nad oes angen i chi geisio caniatâd ac ni chewch eich tarfu yn ddiangen.