Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd i lawer ohonom ni.
Rydym i gyd wedi gorfod wynebu cymaint o heriau drwy gydol pandemig COVID-19. Cafodd ein bywyd gwaith, cartref a theulu eu heffeithio a newidiodd ein harferion.
Ond rŵan yw'r amser iawn i feddwl eto am faint a phryd rydyn ni'n yfed.
Mae yfed llai yn gallu cael effaith gadarnhaol enfawr ar sut rydych chi'n edrych ac yn teimlo – a hynny'n aml mewn ychydig ddyddiau yn unig.
Gall ein helpu i deimlo’n hapusach, yn iachach ac yn fwy egnïol, ein helpu i gysgu’n well, a lleihau ein siawns o gael salwch difrifol fel canser, clefyd ar yr iau a chlefyd y galon.
Mae gostwng y swm rydym yn ei yfed hefyd yn gostwng ein risg o fod mewn damwain, neu fod yn ddioddefwr neu ynghlwm wrth drais.
Ailfeddwl am yfed yn rhan o Galw Amser Newid, strategaeth i leihau’r niwed a achosir gan alcohol gan Fwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau