Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynnau Cyffredin am Cyfleusterau Gofal

  1. Pa symptomau eraill (heblaw 3 prif symptom cydnabyddedig COVID, sef gwres, peswch parhaus neu golli/newid y gallu i flasu neu arogli) fyddai'n cael eu hystyried ar gyfer prawf COVID?
  • Symptomau tebyg i ffliw gan gynnwys unrhyw un neu bob un o’r canlynol, nad ydynt yn cael eu hachosi neu eu hegluro gan gyflyrau eraill sy'n bodoli eisoes fel twymyn y gwair:  myalgia (poen yn y cyhyrau);blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn llawn; tisian yn barhaus; dolur gwddf a/neu grygni, prinder anadl neu wichian
  • Dolur rhydd (nad yw’n gysylltiedig â chyflwr iechyd sy'n bodoli eisoes ) a chyfog / taflu fyny
  • Unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol blaenorol
  1. A fyddai'r prawf hwn yn orfodol i mi oherwydd fy mod i'n gweithio gyda thrigolion bregus mewn lleoliad gofal?

Nid yw'r prawf yn orfodol. Mater i bob unigolyn yw penderfynu gofyn am y prawf neu beidio os ydynt yn cael unrhyw un o'r symptomau uchod (cwestiwn 1), am y rhesymau a eglurir yng nghwestiwn 5.

  1. A fydd yn rhaid i'r lleoliad gofal gau wrth aros am ganlyniadau profion?

Na, bydd y lleoliad gofal yn aros ar agor ac ni fydd angen WHT.  Os bydd canlyniad y prawf yn dod yn ôl yn bositif neu aelod o staff yn datblygu unrhyw un o'r 3 prif symptom cydnabyddedig ar gyfer COVID wrth aros am ganlyniad y prawf PCR yna dylid cychwyn dilyn ar unwaith y drefn bresennol ar gyfer ymateb i sefyllfa lle mae person yn profi’n bositif.

  1. Os yw'r cartref gofal eisoes yn goch, a fydd hyn yn newid y dyddiad ar gyfer troi'n wyrdd?

Na, ni fydd hyn yn effeithio ar y dyddiad y mae'r cartref gofal yn troi'n wyrdd, oni bai bod canlyniad y PCR yn bositif neu fod yr aelod staff yn datblygu unrhyw un o'r 3 prif symptom cydnabyddedig ar gyfer COVID.

  1. Pam rydyn ni'n cyflwyno'r newid hwn rŵan?

Mae'r newid yn digwydd i helpu dod o hyd i achosion COVID-19 cudd yn ein cymunedau, a lleihau nifer y trosglwyddiadau. Mae canfod heintiau a allai fel arall fynd heb eu canfod yn arbennig o bwysig wrth i amrywiadau newydd o'r firws ddod i'r amlwg ac wrth i’r cyfyngiadau clo lacio, yr ysgolion ailagor a chyflwyno newidiadau yn y trefniadau ymweld â chartrefi gofal. Po fwyaf o brofion a gynhelir, yr hawsaf fydd hi i adnabod clystyrau o achosion a mwtadau posib o’r firws. Bydd hyn yn helpu i lacio cyfyngiadau ymhellach yn y dyfodol.

  1. Sut mae archebu fy mhrawf PCR?

Archebwch brawf PCR trwy'r ddolen hon (Lighthouse Labs): https://www.nhs.uk/ask-for-a-coronavirus-test.

  1. Sut y byddaf yn derbyn fy nghanlyniadau?

Pan archebwch y prawf cewch wybod yn y ffyrdd arferol sut y bydd canlyniad y prawf yn cael ei roi ichi. Mae hyn fel arfer naill ai trwy neges destun, e-bost neu alwad ffôn, yn seiliedig ar eich dewis.

  1. A oes angen i mi hunan-ynysu wrth aros am fy nghanlyniadau?

Na. Bydd gofyn ichi ddilyn canllawiau eich cyflogwr yn eu polisi absenoldeb salwch ar gyfer y symptomau sydd gennych, ond ni fydd raid dilyn y rheolau hunan-ynysu ar gyfer Covid oni bai fod gennych unrhyw un o’r 3 prif symptom a gysylltir â COVID (Gwres / Twymyn o 37.8 C neu'n uwch, peswch, newid neu golli synnwyr blasu neu arogli).

Nid yw'n ofynnol i unrhyw aelod o’r teulu (na'r person sy'n sefyll y prawf) ynysu a gallant fynd i'r ysgol a gweithio fel arfer wrth aros am y canlyniadau, oni bai bod y symptomau'n gofyn i chi fod i ffwrdd o'r gwaith yn unol ag amodau polisïau a gweithdrefnau salwch eich cyflogwr. Os daw canlyniad y prawf yn ôl yn bositif, yna bydd angen ichi fynd adref ar unwaith, rhoi gwybod i'ch Rheolwr, a bydd angen i chi ac aelodau eich teulu, a’r rhai y gwyddom ichi ddod i gysylltiad â nhw, ynysu am 10 diwrnod o ddyddiad y prawf positif.

  1. Os yw aelod o staff yn aros am ganlyniadau prawf COVID byddai hyn fel arfer yn golygu na allant fynychu brechiad COVID a gafodd ei drefnu.  Yn yr amgylchiadau hyn, a fyddai hyn yn wir o hyd?

Cyn belled nad yw'r aelod staff yn teimlo'n sâl iawn ac yn dal i fod yn ffit i weithio, gall ddal i fynd i gael y brechiad a drefnwyd. A all rhywun o'r tîm brechu roi'r geiriad cywir yn unol â'r Cwestiynau Cyffredin brechu yma.

  1. Os yw canlyniad prawf PCR yn bositif ac nad oes unrhyw un o'r 3 prif symptom COVID i’w gweld bryd hynny, pryd fyddai diwrnod '0' y cyfnod ynysu?

Dydd 0 fyddai dyddiad cychwyn y symptomau sydd wedi ysgogi’r prawf, neu ddyddiad y sampl prawf os nad ydych yn gwybod dyddiad dechrau’r symptomau.