Gall gwisgo mwgwd wyneb gydag elastig o amgylch y clustiau gynyddu'r risg o golli neu niweidio cymhorthion clyw pan fydd y mwgwd wyneb yn cael ei dynnu os yw'r elastig yn mynd yn sownd i'r cymhorthion clyw. Dyma ambell awgrym i atal hyn rhag digwydd:
- Gwiriwch fod y cymhorthion clyw yn dal yn ei le yn ystod ac yn dilyn tynnu'r mwgwd.
- Pan yn bosib, tynnwch y mwgwd gartref mewn gofod agored fel y gallwch ddod o hyd i'r cymhorthion clyw os ydynt yn disgyn i'r llawr.
- Gwisgwch fwgwd sy'n clymu y tu ôl i'r pen yn hytrach na chlymu o amgylch y clustiau.
- Gwnïwch ddau fotwm i ddarn o ruban i'w wisgo ar gefn eich pen. Cysylltwch elastig y mwgwd â'r botymau yn hytrach na'i glymu o amgylch eich clustiau. Gellir prynu estyniadau botwm ar gyfer y mwgwd hefyd.
- Ystyriwch geisio clymu unrhyw wallt hir mewn bwn i'w gadw o'r ffordd.
- Os gallwch wisgo eich gwallt mewn bwn yna gallwch glymu elastig y mwgwd o'i amgylch.
- Gwnïwch ddau fotwm ar fand pen ffabrig uwch ben eich clustiau a chlymwch elastig y mwgwd ar y botymau.