Dros yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y brechlynnau COVID-19 a roddwyd ar draws Gogledd Cymru. Yr wythnos ddiwethaf, gwnaethom roi 66,000 o bigiadau, y nifer uchaf erioed yn cynnwys 24,000 dros y penwythnos yn unig.
Dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf, bydd ein rhaglen frechu'n cael ei chyflymu hyd yn oed ymhellach wrth i ni geisio rhoi rhyw 18,000 o frechlynnau COVID-19 bob dydd. Mae sicrhau bod yr holl oedolion cymwys yn derbyn pigiadau atgyfnerthu dros y 10 diwrnod nesaf yn hollbwysig i amddiffyn ein gilydd a gwasanaethau'r GIG rhag ton llanw achosion Omicron yr ydym yn disgwyl eu gweld ym mis Ionawr.
Rwy'n erfyn ar bobl i drefnu apwyntiad ar-lein neu i fynd i un o'n clinigau galw heibio dynodedig cyn gynted ag y bo modd yr wythnos hon - peidiwch ag aros tan ar ôl y Nadolig - mae gennym ni staff sy'n barod i'ch brechu. Derbyn y pigiad atgyfnerthu yw'r anrheg Nadolig gorau y gallwch chi ei roi i chi'ch hun. Dewch atom ni gorau po gyntaf, gan y bydd eich imiwnedd yn well wedyn. Bydd ein capasiti i gynnig pigiadau'n is o lawer yn ystod mis Ionawr - felly mae'n hollbwysig i chi ddod atom cyn gynted â phosibl.
Yn anffodus, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd iawn i ohirio llawdriniaethau, gweithredoedd ac apwyntiadau cleifion allanol lle nad oes brys ac i ohirio gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol er mwyn caniatáu rhyddhau staff i roi cymorth gyda'r ymgyrch frechu. Mae llawer o'n staff wedi gwirfoddoli i newid eu cynlluniau am wyliau lle byddent wedi treulio amser gyda'u teuluoedd dros gyfnod y Nadolig er mwyn sicrhau bod modd i ni fynd i'r afael â'r her enfawr hon.
Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pigiadau atgyfnerthu ar gael. Gofynnwn i chi dderbyn eich pigiad atgyfnerthu fel blaenoriaeth ac i ddod atom cyn gynted â phosibl.
Bydd degau o filoedd yn fwy o apwyntiadau yn cael eu rhyddhau yn y dyddiau nesaf, wrth i fwy o'n staff gweithgar ymuno â'r rhaglen frechu. Daliwch ati i edrych ar ein gwasanaeth trefnu apwyntiadau ar-lein oherwydd mae apwyntiadau newydd yn cael eu rhyddhau mewn sypiau.
Os ydych chi wedi trefnu apwyntiad ym mis Rhagfyr, mae'n allweddol i chi sicrhau eich bod yn cadw ato. Peidiwch â chysylltu â ni i aildrefnu gan fod hyn yn arafu ein hymdrechion i amddiffyn eraill. Byddwch yn disgwyl tan fis Ionawr i gael apwyntiad arall.
Mae trefnu apwyntiad ar-lein yn helpu i sicrhau y cewch chi eich pigiad ac yn lleihau'r amser y bydd yn rhaid i chi ei aros. Os byddwch chi'n dod i glinig nad yw'n un galw heibio dynodedig ac nad ydych chi wedi archebu apwyntiad ar-lein, byddwch chi'n wynebu ciw hir ac efallai y cewch eich anfon oddi yno. Ni fyddwn yn gallu cynnig pigiad i chi oni bai ein bod yn ar y blaen a bod gennym ddigon o gyflenwad o frechlynnau a staff.
Bydd y sawl sy'n trefnu apwyntiad ymlaen llaw gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu apwyntiadau ar-lein yn cael blaenoriaeth bob amser pan fydd ciwiau.
Rydym yn parhau i roi cyhoeddusrwydd i glinigau symudol galw heibio a dros dro dynodedig ar-lein. Yn dibynnu ar y nifer sy'n dewis cael apwyntiadau gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu apwyntiadau ar-lein, efallai y byddwn ni'n agor rhagor o glinigau galw heibio mewn mannau penodol. Gall manylion y rhain gael eu cyfathrebu ar fyr rybudd ar-lein.
Rydym unwaith eto yn apelio ar ferched beichiog i ddod i gael eu brechlyn COVID-19. Yn achos unrhyw ddarpar fam, mae cael ei dos cyntaf, ei hail ddos a'i dos atgyfnerthu o frechlyn COVID-19 yn un o'r pethau pwysicaf y gallant ei wneud i amddiffyn eu hunain a'u baban yn y groth rhag coronafeirws, yn enwedig yn erbyn yr amrywiolyn Omicron newydd.
Mae nifer y merched beichiog sy'n dod i gael eu brechlyn wedi bod yn is nag y byddem yn ei ddymuno yng Ngogledd Cymru a ledled y DU. Mae hyn yn peryglu mamau a'u babanod.
Yn seiliedig ar y data am ddiogelwch, ynghyd â'r risg uwch o COVID-19, mae'r JCVI wedi cynghori y dylid ystyried merched beichiog yn grŵp risg glinigol.
Rydym yn annog pob mam yn gryf i drefnu apwyntiad ar gyfer eu dos cyntaf, ail ddos neu ddos atgyfnerthu gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu apwyntiadau ar-lein cyn gynted â phosibl.