Rydym bellach yn rhoi cynlluniau ar waith i gyflymu'n sylweddol y broses o gyflwyno ein rhaglen frechu yn dilyn penderfyniad y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), y Pedair Gwlad a Llywodraeth Cymru i amddiffyn pobl yn gyflymach.
Roedd y cyhoeddiad yn ei gwneud yn glir mai'r nod yw helpu i amddiffyn y boblogaeth rhag achosion cynyddol ac amrywiolion newydd COVID-19. I wneud hyn, bydd angen i'r holl Fyrddau Iechyd fwy na dyblu, o leiaf, nifer y bobl yr ydym yn eu brechu bob dydd ar hyn o bryd.
Mae hyn yn arwain at her enfawr i ni o ran dod o hyd i ddigon o frechwyr, staff cymorth a chyfleusterau er mwyn cyflawni hyn.
Mae'r penderfyniad wedi cadarnhau y bydd yr holl Fyrddau Iechyd yn gwneud y canlynol:
Rydym bellach yn rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau bod gennym yr adnoddau sydd eu hangen arnom i ddelio â'r cynnydd hwn mewn gweithgarwch. Yn y cyfamser, byddem yn gofyn i bobl beidio â chysylltu â'r Bwrdd Iechyd neu eu meddyg teulu gan y byddwn yn parhau i gysylltu â nhw’n uniongyrchol pan ddaw eu tro i gael eu brechu.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig brechiadau o 8am tan 8pm, saith niwrnod yr wythnos ar draws Gogledd Cymru. Fel rhan o'n ymagwedd, rydym yn ystyried sut gallwn ymestyn yr oriau hyn.
Mae gennym 129 o lonydd sydd eisoes yn weithredol, yn cynnig rhyw 30,000 o bigiadau bob wythnos - sef chwe phigiad bob eiliad neu 360 o bigiadau bob munud - ac rydym yn awyddus i ddyblu'r gyfradd hon.
Ar hyn o bryd, mae gennym 164 o staff cyfwerth ag amser llawn sy'n cyflwyno'r rhaglen frechu enfawr hon, ond mae angen mwy er mwyn cyflymu ein hymdrechion. Mae mwy o'n staff yn dod atom i gynnig cymorth ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i godi'r niferoedd ymhellach.
Gall cleifion sy'n gaeth i'r cartref ofyn am bigiad gartref. Yn ddiweddar, mae brechlyn AstraZeneca wedi cael ei awdurdodi i'w ddefnyddio yn y grŵp hwn, a fydd yn caniatáu i ni gyflymu'r broses gyflwyno. Nid oes angen cysylltu â ni - fel uchod, rydym yn gweithio trwy ein rhestrau a byddwn yn cysylltu ag unigolion er mwyn gwneud trefniadau pan ddaw eu tro i gael eu brechu.
Hyd yma, rydym wedi rhoi dros 190,000 o bigiadau ers i'r rhaglen pigiadau atgyfnerthu ddechrau, sy'n cyfrif am ryw 22 y cant o'r holl bigiadau atgyfnerthu a roddir yng Nghymru. O'r 30,000 o apwyntiadau ychwanegol yr ydym yn awyddus i'w cynnig bob wythnos, mae gennym gynlluniau ar waith eisoes i gynnig 8,000 o'r rhain o fis Ionawr ymlaen.
Cofiwch fod atebion i Gwestiynau Cyffredin ar gael ar ein gwefan yma.
Fel yr esboniwyd yn y diweddariad yr wythnos ddiwethaf, mae ein gweithlu i roi pigiadau COVID-19 wedi lleihau o ryw 50 y cant, o gymharu â'r broses gyflwyno ar y dechrau.
O ystyried yr angen erbyn hyn i wella capasiti'n sylweddol, rydym yn ehangu ein hymgyrch recriwtio helaeth yn sylweddol er mwyn sicrhau bod gennym fwy o frechwyr a staff cynorthwyo brechu ar gael.
Rydym hefyd yn apelio ar ein staff ein hunain sy'n gallu rhoi cymorth gyda'r rhaglen. Unwaith y bydd staff newydd, wedi'u hyfforddi'n llawn yn cael eu lleoli ar ein safleoedd presennol, bydd modd i ni gynyddu nifer y bobl y gellir eu brechu o ddydd i ddydd.
Rydym hefyd yn gobeithio croesawu mwy o fferyllfeydd cymunedol i'r broses gyflwyno. Mae i hyn y potensial o wella mynediad at y brechlyn ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn gorfod teithio'n bell i gyrraedd safle brechu.
Er mwyn rheoli'r gweithgarwch cynyddol, bydd angen hefyd i ni ganfod mwy o safleoedd y gallwn eu defnyddio i gynnig brechiadau. Mae hwn yn rhywbeth y byddwn yn siarad â'n partneriaid mewn awdurdodau lleol amdano, er enghraifft, dros y diwrnodau a'r wythnosau sydd i ddod, wrth i ni barhau i weithio mewn partneriaeth i amddiffyn ein cymunedau ar draws Gogledd Cymru.
Rydym eisoes wedi gweld bod y galw am gymorth gan ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 wedi cynyddu'n sylweddol ers i ni ddechrau ymgyrch y brechiad atgyfnerthu. Ar brydiau, mae hyn wedi golygu bod pobl naill ai wedi gorfod aros yn hir neu nad ydynt wedi gallu cael gafael ar staff yn y Ganolfan Gyswllt.
Hoffem atgoffa pobl mai dim ond trwy ein Canolfan Gyswllt y gellir trefnu'r dos cyntaf a'r ail ddos. Ar gyfer unrhyw frechiadau eraill, fel y pigiad atgyfnerthu, byddwn yn cysylltu â phobl yn uniongyrchol pan ddaw eu tro.
Er mwyn ein helpu i ateb cynifer o alwadau â phosibl, rydym bellach yn chwilio am fwy o bobl i roi cymorth i'n Canolfan Gyswllt, a gellir gwneud hyn o'r cartref erbyn hyn. Byddwn yn hysbysebu cyfleoedd i wneud hynny trwy ein sianeli maes o law a byddem yn ddiolchgar o gael unrhyw gymorth y gallwch ei roi er mwyn ein helpu i gyrraedd cynifer o bobl â phosibl.
Rhif ffôn y Ganolfan Gyswllt yw 03000 840004. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 7pm ac o ddydd Sadwrn i ddydd Sul, rhwng 9am a 2pm. Gall y llinellau fod yn brysur iawn, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.
Mae rhestr gyfredol o glinigau galw heibio er mwyn caniatáu i'r rhai rhwng 12 a 15 oed dderbyn dos cyntaf ar gael ar ein gwefan yma.
Cofiwch, hyd yn oed os ydych wedi dal COVID-19 yn flaenorol, argymhellir yr un fath y dylech ddod atom i dderbyn eich dos cyntaf.
Yn ddelfrydol, dylai'r sawl sy'n iau na 18 oed sydd wedi dal y firws yn ddiweddar aros am 12 wythnos hyd nes eu bod yn cael eu brechiad, oni bai eu bod mewn grŵp sydd â risg fwy o salwch difrifol.
Rydym yn awyddus i bobl ifanc wneud penderfyniad cytbwys am frechu, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf gan ffynonellau dibynadwy. Man cychwyn da yw Canllaw Brechiadau COVID-19 i Blant a Phobl Ifanc Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd ar gael ar ein gwefan.