Diolch i chi am eich sylwadau. Mae’r Arolwg Clinigol wedi cau erbyn hyn. Hoffem roi sicrwydd i chi y caiff yr holl sylwadau eu coladu a chânt eu defnyddio i ategu’r strategaeth a gofal iechyd yng Ngogledd Cymru. Diolch yn fawr
Rydym yn datblygu Strategaeth Gwasanaethau Clinigol i helpu i lunio gofal iechyd y dyfodol ar gyfer poblogaeth Gogledd Cymru.
Yn ystod rhan olaf 2021, gofynnom i bobl am eu safbwyntiau ynghylch ein nodau tymor hir cyhoeddedig o ran iechyd a gofal iechyd ar gyfer poblogaeth Gogledd Cymru. Fe wnaeth llawer o bobl dreulio amser yn dweud wrthym ni beth oedd yn bwysig iddynt ac fe wnaeth eu hadborth helpu i hysbysu'r strategaeth. Dywedodd mwyafrif yr atebwyr eu bod yn credu fod ein nodau tymor hir yn dal yn berthnasol. Fodd bynnag, dywedodd llawer o bobl fod y nodau yn rhy uchelgeisiol, ac nad yw'r gwaith o'u cyflawni wedi gwneud y cynnydd y dylai fod wedi'i wneud.
Gwyddom fod gennym ni lawer i'w wneud i sicrhau y gallwn ddarparu'r gofal a'r cymorth y mae gan bobl hawl i ddisgwyl eu cael.
Fe wnaeth pandemig Covid-19 newid ein ffordd o fyw ein bywydau yn sylfaenol, ac fel daw'r dyfodol, bydd angen i ni fynd i'r afael â'r problemau sy'n deillio o'r pandemig a gwella'r gwasanaethau rydym ni'n eu darparu i bobl Gogledd Cymru. Mae gennym ni amseroedd aros hir ar gyfer rhai triniaethau ac mae gennym ni gynllun 'adfer' yn ei le i leihau amseroedd aros hir a chynyddu capasiti. Hefyd, mewn rhai meysydd, nid ydym yn cyflawni'r ansawdd a'r safonau rydym yn dymuno'u sicrhau, ac rydym yn cydnabod fod mynd i'r afael â'r anawsterau hyn yn flaenoriaeth allweddol i ni.
Bydd datblygu Strategaeth Gwasanaethau Clinigol yn ein helpu ni i gynllunio i wireddu'r newidiadau sy'n ofynnol i sicrhau y bydd ein gwasanaethau yn diwallu anghenion iechyd pobl Gogledd Cymru yn y dyfodol. Bydd y strategaeth yn gwneud hyn trwy ddisgrifio'r hyn rydym ni'n dymuno'i gyflawni a'r egwyddorion a'r nodweddion a wnaiff ein helpu i wneud hyn.
Rydym yn dymuno rhannu ein gwaith hyd yn hyn a gofynnwn i chi gyfrannu at ddatblygu'r gwaith ymhellach. Mae eich safbwyntiau yn bwysig i ni a byddwn yn defnyddio'r adborth a gawn i'n helpu i lywio fersiwn derfynol y Strategaeth.
Rydym yn ystyried fod hyn yn rhan o sgwrs barhaus ynghylch datblygiad gofal iechyd ar gyfer Gogledd Cymru yn y dyfodol. Rydym yn croesawu eich safbwyntiau ynghylch ein strategaeth hyd yn hyn, ac fe wnaiff hynny ein helpu i gwblhau'r fframwaith strategol. Rydym yn bwriadu cyflwyno fersiwn terfynol y Strategaeth Gwasanaethau Clinigol i'r Bwrdd Iechyd i'w gymeradwyo yng Ngorffennaf 2022.
Rhannwch eich barn yn y Strategaeth Gwasanaethau Clinigol Drafft.
Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth ynghylch ffurf gwasanaethau'r dyfodol, gan seilio hynny ar yr adborth a gawn. Byddwn yn cynnwys defnyddwyr ein gwasanaethau, sefydliadau partner a chynrychiolwyr ein poblogaeth wrth i ni wneud hyn. Rydym yn gobeithio annog trafodaethau yn ein cymunedau ynghylch y gwasanaethau iechyd rydym yn eu darparu ar hyn o bryd, yn cynnwys y rhai y mae pobl Gogledd Cymru yn credu y bydd arnynt eu hangen yn y dyfodol.
Isod, mae dolenni at y dogfennau ategol dilynol: