Diben Fforwm Partneriaeth Leol (LPF) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ydy:
- Sefydlu deialog reolaidd a ffurfiol rhwng Swyddogion Gweithredol y Bwrdd a sefydliadau staff ar faterion sy'n ymwneud â'r gweithlu a gwasanaethau iechyd.
- Galluogi cyflogwyr a sefydliadau staff i sôn am faterion sy'n effeithio ar y gweithlu.
- Rhoi cyfleoedd i sefydliadau staff a rheolwyr gyfrannu at gynlluniau i ddatblygu'r gwasanaeth ar gam cynnar.
- Ystyried goblygiadau adolygiadau gwasanaeth ar staff a chanfod a cheisio cytuno ar ffyrdd newydd o weithio.
- Ystyried y goblygiadau i staff o ganlyniad i ad-drefnu'r GIG ar lefel genedlaethol neu leol a gweithio mewn partneriaeth i weithredu mewn modd sy'n llwyddiannus i bawb.
- Arfarnu a thrafod mewn partneriaeth berfformiad ariannol y sefydliad yn rheolaidd.
- Arfarnu a thrafod mewn partneriaeth wasanaethau a gweithgareddau'r Bwrdd a'r goblygiadau.
- Darparu cyfleoedd i adnabod a cheisio cytuno ar faterion ansawdd, gan gynnwys llywodraethu clinigol, yn enwedig pan fydd gan faterion o'r fath oblygiadau i staff.
- Sicrhau bod partneriaid staff yn cael gwybod am benderfyniadau allweddol sydd wedi cael eu cymryd gan y Bwrdd a'r uwch reolwyr.
- Ystyried datblygiadau cenedlaethol yn Strategaeth Gweithlu a Sefydliadol GIG Cymru a'r goblygiadau i'r Bwrdd gan gynnwys materion sy'n ymwneud â newid proffil gwasanaethau.
- Trafod materion y penderfynir arnyn nhw'n lleol.
- Sicrhau bod cynrychiolwyr sefydliadau staff yn cael amser rhesymol o'r gwaith gyda thâl i gyflawni dyletswyddau undebau llafur.
- Mewn partneriaeth datblygu cyfleusterau priodol drwy ddefnyddio Cytundeb Cyfleusterau A4C fel safon sylfaenol.
Mae manylion llawn rôl y Fforwm yn y Cylch Gorchwyl V7.0
Mae'r Fforwm yn cyflwyno adroddiad blynyddol ar ei weithgareddau i'r Bwrdd
Cadeiryddion mewn Cylchdro: |
Mrs Jo Whitehead, Prif Weithredwr / Mrs Jan Tomlinson, Cadeirydd ar ochr y Staff |
Prif Gyfarwyddwr: |
Mrs Sue Green, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu'r Sefydliad a'r Gweithlu |
Ysgrifenyddiaeth : Fiona Lewis 01745 586 468
Mae'r cofnodion ar gael drwy'r dolenni isod ar ôl iddyn nhw gael eu cymeradwyo. Bydd agendâu ar gael o 2019 ymlaen.
Dyddiad |
Cofnodion cymeradwy |
2021 |
|
12.10.21 |
|
13.7.21 |
|
13.4.21 |
|
19.1.21 |
|
2020 |
|
20.10.20 |
|
7.7.20 |
|
7.4.20 |
CYFARFOD WEDI'I GANSLO
O ganlyniad i'r sefyllfa barhaus a chyfnewidiol yn ymwneud â Covid-19, mae'r Cadeirydd wedi penderfynu gohirio cyfarfod. Caiff dyddiadau newydd eu cyhoeddi a'u cadarnhau trwy'r tudalennau gwe hyn.
|
7.1.20 |
|
2019 |
|
8.10.19 |
|
9.7.19 |
9.7.19 |
25.4.19 (dyddiad diwygiedig) |
25.4.19 |
8.1.19 |
8.1.19 |
Ar gyfer cofnodion a phapurau blaenorol, cysylltwch â’r Swyddog Ysgrifenyddol perthnasol a enwir uchod