Chwefror 2024
Chwefror 2023
Bwrdd Iechyd yn cael ei roi mewn mesurau arbennig
November 2020
Y Bwrdd Iechyd yn dod allan o Fesurau Arbennig
Special Measures - WG Oral Statement on BCU transformation support
Special Measures - Betsi Cadwaladr University Health Board Framework
September 2020
Special Measures Board Update_September 2020
January 2020
Special Measures Self Review v2.0 January 2020
Mehefin 2019
Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig BIPBC – Adroddiad Trosolwg, Hydref 2018 - Mawrth 2019
Datganiad gan Vaughan Gething, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, June 2019
Chwefror 2019
Mae darpariaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau wedi'i ddad-ddwysáu fel pryder Mesurau Arbennig. Mae'r datganiad llawn ar gael yma. Mae pawb sy'n rhan o ofal Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau yng Ngogledd Cymru wedi gweithio'n galed iawn i wneud y gwelliannau angenrheidiol ac mae hyn yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n fawr. Er bod dal mwy i'w wneud, hoffem gymryd y cyfle hwn i longyfarch pawb a oedd yn rhan o hyn am eu gwaith i gyrraedd y man hwn.
Tachwedd 2018
Mesurau Arbennig BIPBC: MA-P-VG-3663-18 - Dog 1 Datganiad Llafar
Mesurau Arbennig BIPBC: Mai-Medi 18 Adroddiad v2.0
Gorffennaf 2018
Fframwaith Newydd Mesurau Arbennig
Fframwaith Gwelliannau Mesurau Arbennig Adroddiad Diwedd Cyfnod 2 v3.0 gwefan.pdf
Chwefror 2018
Adroddiad Cam 3
Derbyniodd y Bwrdd adroddiad diwedd cam 3 y mesurau arbennig, a’i gymeradwyo i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y trydydd cam, sef cam olaf y fframwaith gwella mesurau arbennig.
Mesurau Arbennig PBC Adroddiad Diwedd Cyfnod 3 Atodiad 1 v1.0 Terfynol wedi'i Gymeradwyo
Fframwaith Gwelliannau Mesurau Arbennig PBC Adroddiad Diwedd Cyfnod 3 v2.0 Terfynol wedi'i Gymeradwyo cyflwyniad dilynol 7.2.18
Ar 1 Chwefror, fe ddarparodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig yn diweddaru Aelodau ar y canlyniadau o'r adolygiad statws dwysâd sefydliadau iechyd rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Rhagfyr 2017. Fe gadarnhaodd hefyd y camau gweithredu ychwanegol sy'n cael eu rhoi yn eu lle i gefnogi'r Bwrdd Iechyd (BIPBC) dan y trefniadau mesurau arbennig.
Tachwedd 2016
Adroddiad Cam 2
Ar 17.11.16, derbyniodd a chymeradwyodd y Bwrdd Adroddiad Diwedd Cam 2 Mesurau Arbennig i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn ystod yr ail allan o dri cham Mesurau Arbennig. Cliciwch ar y ddolen hon i gael mynediad at adroddiad Cam 2
Mai 2016
Adroddiad Cam 1
Ar 19 Mai 2016, derbyniodd y Bwrdd adroddiad ar y cynnydd a wnaed yn ystod Cam 1. Ymhlith y prif feysydd cynnydd mae:
Arweinyddiaeth a Llywodraethu
· Gwnaed nifer o benodiadau allweddol i'r Bwrdd yn cynnwys Prif Weithredwr parhaol, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Cyfarwyddwr Gweithredol Meddygol, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl a thri Aelod Annibynnol.
· Mae Rhaglen Datblygu Bwrdd ar y gweill; mae hyn wedi cynnwys hunan asesiadau o effeithiolrwydd y Bwrdd.
· Mae strwythur pwyllgorau diwygiedig, safonau busnes newydd y Bwrdd, Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd a Strategaeth Rheoli Risg wedi cael eu cymeradwyo a'u rhoi ar waith.
· Mae'r Bwrdd Iechyd wedi rhoi strwythur rheoli newydd ar waith wedi'i seilio ar dri Thîm Ardal daearyddol, i wella effeithiolrwydd trefniadau arwain ar gyfer Gofal Cychwynnol a Gwasanaethau Cymuned.
· Cyflwynwyd system newydd o drosglwyddo gwybodaeth yn ddiogel ar wardiau a theithiau diogelwch gan uwch arweinwyr.
Cynllunio strategol a gwasanaeth
· Mae prif ddeilliannau'r Cynllun Gweithredol i gael eu cyflwyno i'r Bwrdd ym mis Mai 2016.
· Mae trefniadau rheoli perfformiad wedi cael eu hatgyfnerthu gan gyfarfodydd atebolrwydd rheolaidd ac adolygiadau perfformiad ar gyfer pob un o'r ardaloedd gweithredol ac uwch adrannau.
· Mae'r ôl groniad hanesyddol o bryderon a ddynodwyd yn flaenorol wedi cael ei glirio (ac eithrio 4 pryder sy'n destun ymchwiliad parhaus yn ymwneud ag asiantaethau eraill)
Ymgysylltu
· Cymeradwywyd Strategaeth Ymgysylltu
· Mae'r Bwrdd wedi sefydlu Grŵp Strategol Gweithlu ac Ymgysylltu yn cynnwys Partneriaid Undebau Llafur, Aelodau Annibynnol a Swyddogion i wella lefelau ymgysylltu'r gweithlu.
· Dyfarnwyd Tystysgrif o Arfer Da i'r Bwrdd Iechyd gan y Consultation Institute am ei ymgynghoriad i Wasanaethau Mamolaeth.
Iechyd meddwl
· Mae Strategaeth Iechyd Meddwl yn cael ei datblygu
Gwasanaethau Mamolaeth
· Cymeradwywyd yr achos busnes amlinellol ar gyfer y Ganolfan Is-Ranbarthol Gofal Dwys i'r Newydd-anedig (SuRNICC) gan Lywodraeth Cymru i gael ei symud i'r cam achos busnes llawn.
Gofal Cychwynnol
· Ym mis Ebrill 2016, rhoddodd y Bwrdd Iechyd fodel newydd o ofal cychwynnol ar waith i ddarparu gwasanaethau i gymuned Prestatyn oherwydd bod y meddygon teulu lleol wedi rhoi rhybudd eu bod yn terfynu eu contract.
Gellir gweld adroddiad llawn y Bwrdd yn:
Ionawr 2016
Fframwaith Gwella
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig i'r Bwrdd Iechyd ar 29 Ionawr 2016, gan osod y cerrig milltir gwella disgwyliedig dros y ddwy flynedd nesaf, wedi'u rhannu yn dri cham:
Cam 1 – Tachwedd 2015 – Ebrill 2016
Cam 2 – Mai 2016 – Tachwedd 2016; a
Cam 3 – Rhagfyr 2016 – Tachwedd 2017
Y disgwyl yw y bydd bob cam yn canolbwyntio ar welliannau yn y meysydd canlynol:
· Arweinyddiaeth
· Llywodraethu
· Cynllunio strategol a gwasanaeth
· Ymgysylltu
· Iechyd meddwl
· Gwasanaethau Mamolaeth
· Gofal Cychwynnol
Hydref 2015
Adolygu'r Sefyllfa
Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru adolygiad lefel uchel o gynnydd ar ôl y pedwar mis cyntaf o Fesurau Arbennig. O ganlyniad i'w hargymhellion, ar 22 Hydref 2015, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd y dylai'r Bwrdd Iechyd barhau mewn mesurau arbennig am y ddwy flynedd nesaf, gyda chynnydd a cherrig milltir yn cael eu hadolygu bob chwe mis.
Gorffennaf i Medi 2015
Cynlluniau 100 Niwrnod
Mewn ymateb, datblygodd y Bwrdd Iechyd gyfres o gynlluniau 100 niwrnod i ddechrau oedd yn gosod y camau i ddarparu gwelliannau cyflym yn y meysydd pryder penodol a amlygwyd gan y Gweinidog.
Mae'r cynnydd a wnaed yn ystod y cam hwn ar gael mewn cyfres o newyddlenni:
Adroddwyd ar y sefyllfa yn dilyn y 100 Niwrnod fel a ganlyn:
Diweddariad 100 Niwrnod - Medi 2015
Mehefin 2015
Ar 8 Mehefin 2015, yn dilyn cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod wedi derbyn yr argymhelliad y dylid gosod y Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig dan fframwaith uwch gyfeirio GIG Cymru.
Roedd hyn yn adlewyrchu methiant y Bwrdd Iechyd i wneud digon o welliannau o ran y pryderon a fynegwyd ers amser am lywodraethu, arweinyddiaeth a materion eraill oedd eisoes wedi arwain at godi statws uwch gyfeirio'r Bwrdd Iechyd i Ymyriad wedi'i Dargedu.
Gellir cael mwy o wybodaeth am broses uwch gyfeirio Llywodraeth Cymru yn http://gov.wales/topics/health/publications/health/guidance/escalation/?lang=en
Cynlluniwyd y mesurau i roi sefydlogrwydd, cyngor ac arweiniad i'r Bwrdd Iechyd wrth gyflawni ei ddyletswyddau.
Gosododd y Gweinidog feysydd allweddol ar gyfer gwelliant pendant fel a ganlyn:
· Llywodraethu, arweinyddiaeth a throsolwg - rhaid i'r Bwrdd Iechyd weithredu camau llywodraethu a sicrwydd y tynnwyd sylw atynt mewn cyfres o adroddiadau, yn cynnwys gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac mewn adolygiad a gynhaliwyd gan Ann Lloyd.
· Gwasanaethau Iechyd Meddwl - rhaid i'r Bwrdd Iechyd weithredu'r cynllun iechyd meddwl ar gyfer Gogledd Cymru, yn cynnwys camau'n codi o adolygiadau blaenorol, pryderon llywodraethu ac yn arwyddocaol, yr adroddiad diweddar ar ddigwyddiadau yn Nhawel Fan.
· Gwasanaethau Mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd - rhaid i'r Bwrdd Iechyd ddatrys y cwestiwn am ddyfodol gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol a materion cynaladwyedd, a dwyn cynlluniau ymlaen ar gyfer y Ganolfan Is Ranbarthol Gofal Dwys i'r Newydd-anedig (SuRNICC).
· Gwasanaethau meddygon teulu a gofal cychwynnol, yn cynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau - rhaid i'r Bwrdd Iechyd ymateb i'r adolygiad y tu allan i oriau a materion cysylltiedig a gomisiynwyd ganddo.
· Ail gysylltu â'r cyhoedd ac adennill eu hymddiriedaeth - rhaid i'r Bwrdd gynnal ymarfer gwrando a'i oruchwylio i sefydlu agwedd wahanol at ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae arno angen gwneud hynny'n gyflym a gwrando ar yr hyn a ddywed y boblogaeth leol wrtho, yn hytrach na rhoi gwybod i'r cyhoedd am farn y Bwrdd.
Yn dilyn penderfyniad y Gweinidog, gwaharddodd y Bwrdd Iechyd ei Brif Weithredwr a hynny ar unwaith. Roedd hon yn weithred niwtral er mwyn gallu sefydlu swyddog atebol dros dro newydd. Gofynnodd y Gweinidog i Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru a Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth y GIG Felindre i gymryd y cyfrifoldebau hyn.
Mae'r Bwrdd yn cael ei helpu gan gyfres o unigolion allweddol sy'n rhoi cyngor arbenigol fel rhan ofynnol o fesurau arbennig. Mae'r rhain yn cynnwys:
· Dr Chris Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, sy'n rhoi cyngor a chefnogaeth ar wasanaethau meddygon teulu a gofal cychwynnol yn cynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau;
· Peter Meredith-Smith, cadeirydd dros dro Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned a chyfarwyddwr cyswllt y Coleg Brenhinol Nyrsio yng Nghymru sy'n rhoi arbenigedd mewn nyrsio iechyd meddwl; Bydd y tîm 1,000 o Fywydau iechyd meddwl hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Mr Meredith-Smith a'r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod gwelliannau cynaladwy mewn diwylliant gofal a gwasanaethau;
· Ann Lloyd, cyn Brif Weithredwr GIG Cymru, fydd yn rhoi trosolwg o ran llywodraethu ac atebolrwydd.
Mae trosolwg gweinidogol o'r trefniadau mesurau arbennig yn cael ei arwain gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething.
Er bod y mesurau arbennig yn berthnasol i'r Bwrdd Iechyd, mae gwasanaethau a gweithgareddau bob dydd yn parhau fel arfer.