Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd Iechyd yn dod allan o Fesurau Arbennig

24/11/2020

Rydym yn falch o rannu’r newyddion bod y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi ddydd Mawrth 24 Tachwedd 2020 y bydd y Bwrdd Iechyd yn dod o Fesurau Arbennig ar unwaith.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,  Mark Polin a’r Prif Weithredwr Dros Dro, Gill Harris mewn datganiad ar y cyd:

“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad arwyddocaol hwn a’r gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru. Mae’r hyder cynyddol yn ein cynlluniau i wneud gwelliannau strategol tymor hir wrth gydnabod bod llawer mwy i’w wneud, yn galonogol.

“Bydd y pecyn o gefnogaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn ein helpu i adeiladu ar y gwaith o ddatblygu datrysiadau trawsnewidiol a chynaladwy i heriau hir dymor mewn gofal heb ei drefnu, diagnosteg, gofal wedi ei gynllunio a gwasanaethau iechyd meddwl.

“Rydym yn hyderus y bydd ein cynlluniau uchelgeisiol i’r dyfodol yn gwella profiadau cleifion ac amseroedd aros. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Canolfannau Diagnostig a Thriniaeth a llywio achos busnes ar gyfer Ysgol Feddygol a Gwyddorau Iechyd yng Ngogledd Cymru.

“Rydym yn hynod o falch o’r ffordd mae cydweithwyr ar draws y sefydliad wedi wynebu her COVID-19 ac wedi dangos positifrwydd, gwytnwch ac ymrwymiad i gleifion yn yr amodau anoddaf un. Rydym yn diolch iddynt am bopeth maen nhw wedi ei wneud i ofalu am gleifion a chadw ein cymunedau’n ddiogel.

“Mae llawer mwy o waith o’n blaenau ond rydym yn hyderus, gyda chefnogaeth ein staff, partneriaid a’r cyhoedd, y bydd y trawsnewidiad angenrheidiol i wasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru yn cael ei gyflawni.”

Gellir gweld datganiad y Gweinidog yma