Neidio i'r prif gynnwy

Mehefin 2023

'Rydym ni ar drothwy byd cyffrous newydd...ac rydym ni ar flaen y gad'

Mae patholegydd ymgynghorol sydd wedi arloesi o ran defnyddio meddalwedd Deallusrwydd Artiffisial (AI) i helpu i ganfod canser y brostad, yn arwain datblygiad newydd o ran yr hyn a elwir yn "batholeg gyfrifiadurol".

Mae Dr Muhammad Aslam a'i gydweithiwr Dr Anu Gunavardhan wedi bod yn defnyddio'r rhaglen er mwyn helpu i ganfod canser y fron. Mae'r rhaglen, o'r enw platfform Galen ac a ddatblygwyd gan Ibex Medical Analytics, wedi cael ei pheilota yn y Bwrdd Iechyd a'r tîm yw'r cyntaf yn y DU i'w defnyddio ar lefel glinigol er mwyn helpu i ganfod canser y fron.

Mae Dr Aslam o'r farn y gallai'r defnydd clinigol newydd hwn arwain at ddechrau cyfnod newydd o ran diagnosteg canser, gan fod trin canser y fron yn gofyn am brofion cyflym a manwl-gywir er mwyn cael canlyniadau mwy llwyddiannus i gleifion.