Unigolyn ifanc yn ei arddegau yn diolch i staff practis Blaenau Ffestiniog am achub ei bywyd.
Diolchodd unigolyn ifanc yn ei harddegau i staff practis ym Mlaenau Ffestiniog am achub ei bywyd ar ôl iddi fynd yn ddifrifol wael gyda diabetes math 1 heb ei ddiagnosio. Aed â Jorja Horne-Edwards, sy'n 14 mlwydd oed, ar frys i Ganolfan Goffa Ffestiniog gan staff Ysgol y Moelwyn ar ôl iddynt weld ei bod wedi llewygu yn y toiled yn yr ysgol.
Gwnaeth staff yn y ganolfan iechyd asesu Jorja pan gyrhaeddodd a gwnaethant weld bod lefel y siwgr yn ei gwaed yn hynod uchel gan ddangos Diabetes Math 1 a chetoasidosis diabetig uniongyrchol (DKA) - sef cymhlethdod difrifol ynghlwm wrth ddiabetes sy'n gallu bygwth bywyd.
Cafodd Jorja ei hedfan i Ysbyty Gwynedd gan Ambiwlans Awyr Cymru lle derbyniodd ddiagnosis Diabetes Math 1 yn ddiweddarach ac mae hi bellach yn derbyn triniaeth reolaidd i reoli ei chyflwr.