Neidio i'r prif gynnwy

Ionawr 2024

Fferyllfa GIG newydd yn agor yn Llanberis.

Mae Fferyllfa GIG newydd wedi agor yn Llanberis, gan sicrhau bod gan bobl leol fynediad hwylus unwaith eto at feddyginiaethau a chyngor arbenigol ar garreg eu drws.

Yn dilyn cau fferyllfa'r dref yn 2023, gwnaeth y Bwrdd Iechyd weithio gyda Fferyllwyr Llŷn, y mae eu canghennau eraill yn cynnwys Nefyn, Abersoch, Llanbedrog, Blaenau Ffestiniog a Chriccieth, i sefydlu fferyllfa newydd yn y dref.

Agorodd y fferyllfa newydd yn Llanberis tua diwedd mis Tachwedd ac mae'n cynnig ystod eang o wasanaethau gan gynnwys dosbarthu presgripsiynau ac anhwylderau cyffredin.