Claf yng nghanolfan adsefydlu strôc newydd Sir y Fflint yn diolch i feddyg ymgynghorol am 'ei achub'.
Agorodd canolfan adsefydlu strôc newydd yn Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy fel rhan o raglen gwerth £3 miliwn i wella gofal strôc yng Ngogledd Cymru.
Y claf gwrywaidd cyntaf yn y ganolfan adsefydlu strôc oedd Carl Lamb, 59 oed, o'r Orsedd, a ddiolchodd i Feddyg Ymgynghorol Strôc newydd Sir y Fflint a Wrecsam, Nia Williams, am ei helpu yn ystod ei adferiad.
Gwnaeth Carl, sy'n saer coed, lewygu tra'r oedd yn gweithio a phan ffoniodd ei wraig a chlywed ei hun yn siarad, sylweddolodd fod ei leferydd yn aneglur a'i fod wedi cael strôc. Aed ag ef i'r ysbyty agosaf yn Swydd Gaer a chafodd ei drosglwyddo i ward strôc Ysbyty Maelor Wrecsam. Derbyniodd y gwely cyntaf a oedd ar gael i ddynion yn y ganolfan newydd.