Sylwer
Rydym yn cau’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Dolgellau a Bermo dros dro. Mae hyn yn rhan o’n cynlluniau i reoli’r ymateb i COVID-19 yn ein cymunedau. Am y tro, rydym wedi cyfuno ein hadnoddau mân anafiadau i’r Ysbyty Alltwen, sy’n gallu rhoi gofal a chymorth gydag amrywiaeth o fân anafiadau.
Cyfeiriad: Dolgellau, Gwynedd, LL40 1NT
Rhif Ffôn: 01341 422 479
Mae hwn yn safle di-fwg. Peidiwch ag ysmygu yn y drysau, yn yr adeiladau nac ar y tir os gwelwch yn dda.
Cyfleusterau Ysbyty Dolgellau Bermo
Mae gan Ysbyty Dolgellau welyau cleifion mewnol. Mae gofal yn cael ei roi gan staff Nyrsio, Meddygon Ymgynghorol a Meddygon Teulu.
X-Ray Department opening times:
Uned Mân Anafiadau (MIUs)
8am - 8pm, 7 diwrnod yr wythnos
Rhif Ffôn: 01341 422 479
Gall Unedau Mân Anafiadau (MIU) helpu gydag anafiadau llai difrifol fel:
· Streifiadau
· Briwiau neu grafiadau
· Llosgiadau
· Rhywbeth yn y llygad
· Brathiadau a phigiadau pryfed
· Mân anafiadau i'r pen
Nid oes angen apwyntiad, ac fel arfer, gallant gynnig amseroedd aros byrrach o lawer na'n prif adrannau achosion brys sy'n gorfod blaenoriaethu'r cleifion sydd wedi'u hanafu'n fwy difrifol.
Mae Unedau Mân Anafiadau yn ein hysbytai cymuned ategol ar draws Gogledd Cymru, yng Nghaergybi, Pwllheli, Dolgellau, Tremadog, Tywyn, Llandudno, Dinbych, Treffynnon a'r Wyddgrug.
Llwythwch yr ap 'Live Wait Times' i lawr
Gallwch weld yr amseroedd aros byw a chael gwybodaeth am eich Uned Mân Anafiadau agosaf yng Ngogledd Cymru drwy lwytho’r ap 'Live Wait Times' i lawr am ddim ar eich ffôn clyfar neu’ch dyfais tabled. Mae’r ap ar gael ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple.
Eich gwasanaethau iechyd lleol |
GIG 111 Cymru |
Mae gwybodaeth, cyngor a llinellau cymorth hefyd ar gael yma ar gyfer iechyd meddwl, alcohol, dementia a mwy. |