Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), mae'n rhaid i bob awdurdod cyhoeddus fabwysiadu a chynnal Cynllun Cyhoeddi. Mae'r Ddeddf yn mynnu y bydd pob awdurdod cyhoeddus yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd mewn ffordd ragweithiol.
Cafodd y Cynllun Cyhoeddi Model a'r Ddogfen Diffinio ar gyfer Cyrff Iechyd yng Nghymru eu cynhyrchu gan y Comisiynydd Gwybodaeth ac maen nhw'n diffinio saith dosbarth cyffredinol o wybodaeth fel y nodir isod:
Dewiswch bennawd i ddarganfod mwy am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae disgrifiadau o dan bob pennawd i nodi beth yw cynnwys y Dosbarth hwnnw o'r Cynllun Cyhoeddi:
Cynllun Tair Blynedd 2024-2027, Strwythur y GIG, sefydliadau a phartneriaid allweddol, cyfarfodydd â chwmnïau fferyllol a chyflenwyr meddygol eraill, manylion cyswllt adrannau sy'n delio â'r cyhoedd, rhannu gwybodaeth ac 'Eich Gwybodaeth, Eich Hawliau'.
Rheolau sefydlog a chyfarwyddiadau ariannol, adroddiadau blynyddol a chyfrifon, rhaglen gyfalaf, cynllun dirprwyo, lwfansau a threuliau staff uwch ac aelodau'r Bwrdd, graddfeydd a strwythurau cyflog staff, cyllid, caffael a thendro a chontractau a ddyfarnwyd.
Cynllun Tair Blynedd 2024-2027, Adroddiadau blynyddol, cynllun busnes blynyddol, datganiadau ansawdd blynyddol, targedau, nodau ac amcanion, perfformiad yn erbyn targedau, datganiadau llywodraethu blynyddol, Caldicott, adroddiadau archwilio, arolygon ac asesiadau effaith diogelu data.
Papurau'r Bwrdd, Cofrestr Risgiau Corfforaethol, Safonau Iechyd a Gofal, Fframwaith Perfformiad ac Atebolrwydd, strategaeth cynnwys cleifion a'r cyhoedd, ymgynghoriadau cyhoeddus, canllawiau cyfathrebu mewnol a Safonau'r Gymraeg.
Iechyd a diogelwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth, Cynllun Iaith Gymraeg, rheolau sefydlog a chyfarwyddiadau ariannol, diogelu data, rheoli ystadau, taliadau am wybodaeth.
Gwybodaeth y mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni ei chadw, cofrestr asedau a chofrestr buddiannau.
Gwasanaethau clinigol ac anghlinigol, ffioedd y gallwn eu hadennill o wasanaethau, sut i wneud cwyn a chyfathrebu corfforaethol a datganiadau i'r cyfryngau.