Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth Tri: Beth ydy ein blaenoriaethau a sut hwyl ydyn ni'n ei chael arni

Mae dosbarth tri yn cynnwys gwybodaeth am: 

Adroddiad blynyddol
Cynllun busnes blynyddol, gan gynnwys comisiynu 
Targedau, nodau ac amcanion 

Bydd gwybodaeth am ein Targedau, ein nodau a'n hamcanion yn cael ei chyhoeddi yma

Dogfen cyfeiriad strategol (cynllun 3 blynedd) 
Perfformiad yn ôl targedau/dangosyddion perfformiad allweddol (KPI)/ gwybodaeth rheoli perfformiad
Adroddiadau ansawdd a diogelwch
Asesiad strwythuredig a safonau ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru
Datganiad ansawdd blynyddol
Egwyddorion Caldicott Ar Waith (C-PIP)
Mae'r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Digidol a Llywodraethu Gwybodaeth

Asesiadau Caldicott a chynllun gwella

Mae'r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Digidol a Llywodraethu Gwybodaeth

Adroddiadau archwilio
Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio

Arolygon defnyddwyr gwasanaeth

Sylwadau, awgrymiadau ac adborth

Asesiadau o'r effaith ar breifatrwydd 

Mae asesiadau o'r effaith ar ddiogelu data (DPIAs) yn ffordd o helpu sefydliadau i ddod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithiol o gydymffurfio â'u dyletswyddau diogelu data a diwallu disgwyliadau unigolion o ran preifatrwydd. Maen nhw'n gallu bod yn rhan ganolog o feddwl am breifatrwydd o'r cychwyn cyntaf. 

Mae'r Rheoliad Cyffredinol newydd ar Ddiogelu Data (GDPR) yn nodi'r amgylchiadau pan fydd yn rhaid cynnal DPIA. 

Bydd DPIA effeithiol yn galluogi sefydliadau i adnabod a datrys problemau'n gynnar, gan leihau'r costau cysylltiedig a'r difrod i enw da a allai ddigwydd fel arall.  

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef rheoleiddiwr y DU ar gyfer deddfwriaeth Diogelu Data, yn annog sefydliadau i sicrhau bod preifatrwydd a diogelu data yn ystyriaeth allweddol ar gam cynnar mewn unrhyw brosiect, a drwy gydol oes y prosiect. Er enghraifft wrth:

  • adeiladu systemau TG newydd ar gyfer storio data personol neu gael gafael arno;

  • datblygu deddfwriaeth, polisïau neu strategaethau sydd â goblygiadau o ran preifatrwydd;

  • cychwyn cynllun rhannu data; neu

  • defnyddio data at ddibenion newydd.