Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth Chwech: Rhestri a chofrestri

Mae dosbarth chwech yn cynnwys gwybodaeth am: 

Unrhyw wybodaeth y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn rhaid i'r Bwrdd Iechyd ei chadw ar hyn o bryd mewn cofrestri sydd ar gael i'r cyhoedd

Mae'r wybodaeth wedi'i rhestru isod. 

Rhestr o'r prif gontractwyr / cyflenwyr

Mae BIPBC yn caffael ei nwyddau a'i wasanaethau gan gontractwyr a chyflenwyr yn unol â'i drefniadau caffael sydd wedi'u nodi yn Rheolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog y Bwrdd Iechyd. Caiff swyddogaeth caffael y Bwrdd Iechyd ei chyflawni drwy drefniant partneriaeth gan gangen Gwasanaethau Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (MWSSP).  Mae NWSSP yn defnyddio dros 15,000 o gyflenwyr felly os byddwch chi angen rhestr o'n 20 prif gyflenwr neu os hoffech chi gyflwyno cais penodol, cyflwynwch gais drwy shared.services@wales.nhs.uk.

Cofrestri asedau

Mae gwybodaeth am ein hasedau cyfalaf ar gael yn ein hadroddiadau blynyddol a'n cyfrifon. I gael manylion unrhyw asedau eraill a allai fod gennym, bydd angen i chi gyflwyno cais ysgrifenedig i bcu.foi@wales.nhs.uk.

Cofrestr asedau gwybodaeth

Mae gwybodaeth am ein hasedau cyfalaf ar gael yn ein hadroddiadau blynyddol a'n cyfrifon. I gael manylion unrhyw asedau eraill a allai fod gennym, bydd angen i chi gyflwyno cais ysgrifenedig i bcu.foi@wales.nhs.uk.

Teledu Cylch Cyfyng

Y Bwrdd Iechyd ydy rheolydd data'r holl systemau teledu cylch cyfyng a goruchwylio sy'n cael eu defnyddio ar eiddo'r Bwrdd Iechyd ar draws Gogledd Cymru, a bydd yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data, a Chod Ymarfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ar gyfer Camerâu Goruchwylio. Bydd recordiadau sy'n cael eu gwylio / a ddaw o systemau teledu cylch cyfyng a goruchwylio ddim ond yn cael eu defnyddio er mwyn atal a chanfod troseddau, materion diogelu neu ymchwiliadau mewnol sydd wedi cael eu hawdurdodi.

Cofrestr buddiannau

Yn unol â Rheolau Sefydlog y Bwrdd Iechyd mae'n rhaid i'r Bwrdd fabwysiadu cyfres o werthoedd a safonau ymddygiad sy'n diwallu gofynion Fframwaith Gwerthoedd a Safonau Ymddygiad GIG Cymru.  Bydd y gwerthoedd a'r safonau ymddygiad hyn yn berthnasol i bawb sy'n gwneud busnes gan neu ar ran y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys aelodau'r Bwrdd, swyddogion y Bwrdd Iechyd, ac eraill, fel sy'n briodol.

Mae gan y Bwrdd Iechyd Bolisi Ymddygiad Safonau Busnes sy'n Cynnwys Datganiadau o Fuddiannau, Rhoddion, Lletygarwch a Nawdd sy'n ail-ddatgan ac yn adeiladu ar ddarpariaethau Rheolau Sefydlog y Bwrdd Iechyd. Mae'n ail-bwysleisio ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i sicrhau ei fod yn gweithredu yn ôl y safonau uchaf, rolau a chyfrifoldebau'r rheini sy'n cael eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd, a'r trefniadau i sicrhau bod modd gwneud datganiadau. Ar ddechrau pob cyfarfod Bwrdd, Pwyllgor neu gyfarfod ffurfiol/gwneud penderfyniadau, gofynnir i'r aelodau ac i'r rheini sy'n bresennol ddatgan eu buddiant mewn unrhyw eitemau sydd ar yr agenda. Ar ben hyn, mae'n rhaid i holl Aelodau'r Bwrdd a'r Uwch Swyddogion lenwi ffurflen datganiad o fuddiant hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw unrhyw beth i roi arni. Bydd datganiadau ar lefel y Bwrdd yn cael eu cyhoeddi fel rhan o'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon a fydd yn cael eu cymeradwyo bob mis Mehefin gan y Pwyllgor Archwilio cyn cyflwyno'n ffurfiol gerbron Cyfarfod Blynyddol y Bwrdd a gynhelir ym mis Gorffennaf bob blwyddyn. Mae'r gofrestr buddiannau nawr yn electronig ac mae'r system yn cael ei gweinyddu gan Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd. 

Cofrestr o roddion a lletygarwch a ddarparwyd i aelodau'r Bwrdd ac i uwch bersonél

Mae Polisi Ymddygiad Safonau Busnes y Bwrdd Iechyd yn gwahardd aelodau'r Bwrdd a swyddogion y Bwrdd Iechyd rhag derbyn rhoddion, lletygarwch neu fuddion mewn nwyddau gan drydydd parti a allai'n rhesymol arwain at amheuaeth o wrthdaro rhwng eu dyletswydd swyddogol a'u buddiant preifat, neu y byddai'n rhesymol gweld bod hynny'n peryglu eu huniondeb personol mewn unrhyw ffordd. Mae'r Polisi sy'n Cynnwys Datganiadau o Fuddiannau, Rhoddion, Lletygarwch a Nawdd yn rhoi canllawiau manwl ynghylch y mathau o roddion, lletygarwch a nawdd mae modd eu derbyn a'r rheini na cheir eu derbyn.

Mae Ysgrifennydd y Bwrdd yn cyflwyno adroddiad o'r holl gynigion o Roddion a Lletygarwch mae'r Bwrdd Iechyd yn eu cofnodi i'r pwyllgor Archwilio o leiaf bob blwyddyn.

Cofrestr Datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth