Neidio i'r prif gynnwy

'Os bydd unrhyw un yn gofyn beth ddysgodd Covid i ni, dyma'r ateb mewn brics a morter'

 

27.06.23

Mae meddyg ymgynghorol wedi canmol Uned Cymorth Anadlol (RSU) flaengar a ddyluniwyd yn sgil gwersi’r pandemig Covid.

Gwnaeth Dr Dan Menzies, meddyg ymgynghorol mewn meddygaeth anadlol, ei sylw yn agoriad yr uned ar Fehefin 15.

Mae’r uned eang 20 gwely wedi'i leoli ar Ward 6 yn Ysbyty Glan Clwyd, gydag uned o wyth gwely gyda llu o nodweddion arbennig.

Mae ardaloedd gwisgo a dadwisgo pwrpasol wedi'u cynnwys yn y dyluniad ac mae'r system puro aer yn cyrraedd safon sydd ymhell uwchlaw'r argymhellion presennol.

Mae wardiau arferol yn newid yr aer ddwywaith yr awr ond ers y pandemig, y gofynion cyfredol ydy cyfradd newid aer 6 gwaith yr awr.

Mae gan yr uned newydd gyfradd newid aer o 10 gwaith yr awr gyda fentiau lefel isel ychwanegol, i leihau erosolau yn yr amgylchedd.

Dywedodd Dr Menzies, y meddyg ymgynghorol mewn meddygaeth anadlol: “Fe fuom ni’n trafod gyda’n cydweithwyr dylunio er mwyn gweld beth fyddai’n bosib gwneud gyda’r gyllideb oedd gennym.

Ysbyty Maelor Wrecsam yn agor ystafell man driniaethau newydd at ddibenion llawdriniaethau ar y dwylo - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

“Os bydd unrhyw un yn holi ‘beth ddysgodd Covid i ni’, dyma’r ateb mewn brics a morter. Rydyn ni wedi adeiladu'r adnodd gorau posibl gyda'r hyn sydd gennym ni. ”

Yr RSU fydd cartref y cleifion hynny â phroblemau anadlol, fel y ffliw neu Covid, nad ydynt yn ddigon sâl i fod angen gofal dibyniaeth fawr.

Yn hollbwysig, bydd yn lleihau'r pwysau ar yr Uned Dibyniaeth Fawr(HDU) os bydd niferoedd achosion o heintiau yn cynyddu’n fawr, esboniodd Dr Menzies.

Dywedodd: “Os oes gennych glaf sydd angen cymorth anadlu, nid ydych chi eisiau heintio’r ysbyty cyfan.  Rydym yn gwybod bod pobl a gafodd Covid yn yr ysbyty yn fwy tebygol o farw o ganlyniad.

 “Yr uned gofal dibyniaeth fawr yn aml ydy’r lle mae pobl heintiedig ag anawsterau anadlol yn mynd – dydyn nhw ddim yn ddigon sâl i gael gofal dwys ond yn rhy sâl i fynd i ward arferol.

“Mae’r RSU yn eistedd rhwng y wardiau arferol a’r uned dibyniaeth fawr. Yn y pandemig roedd angen monitro pobl, felly mae cydbwysedd rhwng monitro ac ynysu.

Prosiect newydd i ysbrydoli a dylanwadu ar arweinwyr y dyfodol i ysgogi newid - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

“Rydym wedi ceisio paratoi ar gyfer epidemig ffliw ac unrhyw bandemig firws anadlol yn y dyfodol.”

Mae cylchedau deuol ocsigen ar draws y ward gyfan sy’n golygu y bydd cyflenwad ocsigen llif uchel ar gael yn gyson.

Mae hyd yn oed y trydan wedi'i ddylunio’n arbennig er mwyn sicrhau na fydd unrhyw oedi wrth newid i oleuadau brys yn ystod toriad trydan.

Mae hyn yn golygu y gall triniaethau cymhleth barhau yn ddi-dor, hyd yn oed os bydd toriad yn yr ynni.

Dywedodd metron Ward 6, Julie Pope: “Rydym yn medru gweld cleifion yn hawdd ar y ward hon. Pan fydd gennym ni gleifion sydd angen arsylwadau uwch, os ydyn nhw ar offer anadlu, gallwn eu gweld o bob man yn yr ystafell a byddwn yn cael ein staffio yn unol â’r gofynion.”

Cafodd uned debyg ei sefydlu yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ystod y pandemig a derbyniodd ganmoliaeth fel rhywbeth y dylai fod gan bob ysbyty yng Nghymru.

Ond hon ydy’r Uned Cymorth Anadlol gyntaf yng Nghymru sydd wedi’i dylunio a’i hadeiladu’n bwrpasol yn y cyfnod ar ôl y pandemig.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)