Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Maelor Wrecsam yn agor ystafell mân driniaethau newydd at ddibenion llawdriniaethau ar y dwylo

23 Mehefin, 2023

Mae ystafell mân driniaethau at ddibenion llawdriniaethau ar y dwylo wedi agor yn Ysbyty Maelor Wrecsam i helpu i gwtogi amseroedd aros.

Hyderir y bydd yr Ystafell Mân Lawdriniaethau, sydd wedi'i lleoli yn yr adran cleifion allanol, yn helpu i leihau nifer y bobl sy'n disgwyl am lawdriniaethau ar y dwylo, sydd wedi cynyddu'n sylweddol ers pandemig COVID-19.

Deilliodd y syniad o gydymgynghoriad rhwng Mr Preetham Kodumuri, Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig  yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a Mr Edwin Jesudason, Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig yn Ysbyty Gwynedd. Mae'r ddau wedi bod yn ymdrechu'n ddiflino i ddatblygu dulliau newydd o ddarparu llawdriniaethau ar y dwylo heb ddefnyddio'r theatr mewn modd diogel ac effeithiol. Mae cynlluniau ar waith erbyn hyn i agor ystafell debyg ar gyfer gweithredoedd yn ardal y Gorllewin a’r Canol yn y Bwrdd Iechyd dros y misoedd sydd i ddod.

Dywedodd Mr Kodumuri, sy'n ymgymryd â'r llawdriniaethau ym mannau clinigol newydd Ysbyty Maelor Wrecsam:  “Trwy agor ystafell mân driniaethau newydd, gallwn drin nifer uwch o gleifion, ac fe wnaiff hynny gwtogi amseroedd aros yn sylweddol a gwella lefelau boddhad cleifion.

“Yn ychwanegol, bydd cleifion sy'n cael llawdriniaeth mewn ystafell mân driniaethau yn treulio llai o amser yn yr ysbyty na'r rhai sy'n cael llawdriniaeth mewn prif theatr. Bydd hyn yn rhyddhau lleoedd mawr eu hangen mewn gwelyau ac yn lleihau'r pwysau ar adnoddau'r ysbyty.

“Un arall o fuddion pwysig ystafell mân driniaethau yw'r ffaith y bydd cyfleuster o'r fath yn cynhyrchu llawer llai o wastraff clinigol nag yn achos llawdriniaethau yn y prif theatrau. Mae hyn yn ystyriaeth hollbwysig o gofio'r pwyslais presennol ar leihau gwastraff a hybu cynaliadwyedd ym maes gofal iechyd.

“Mae'r ffaith fod yr ystafell hon ar gael i ni hefyd yn sicrhau fod mwy o amser ar gael yn y prif theatrau i gynnal llawdriniaethau mawr eraill. Fe wnaiff hyn ein galluogi i gynnal rhagor o lawdriniaethau a chwtogi'r amseroedd aros i'r bobl hynny y mae arnynt angen ymyriadau llawfeddygol mwy cymhleth.”

Karen Dogan o Wrecsam oedd y claf cyntaf i gael llawdriniaeth yn yr ystafell mân driniaethau'r mis hwn.

Roedd Karen, sy'n gweithio yn archfarchnad ASDA yn y ddinas, wedi bod yn profi poen a merwino yn ei harddwrn, a bu'n rhaid iddi fod yn absennol o'i gwaith yn sgil hynny oherwydd yr oedd ei dyletswyddau codi nwyddau trwm yn peri trafferth iddi.

Fe wnaeth Mr Kodumuri gynnal llawdriniaeth twnnel y carpws ar arddwrn Karen, ac fel rhan o'r driniaeth, caiff gewyn ei ryddhau i leddfu pwysedd ar y nerf. Cynhaliwyd y driniaeth gyffredin hon yn yr ystafell mân driniaethau, a chwblhawyd hynny ymhen llai nag awr.

Dywedodd Karen: “Bu'n rhaid i mi gael llawdriniaeth twnnel y carpws yn yr arddwrn arall oddeutu blwyddyn yn ôl, ond y tro diwethaf, bu'n rhaid i mi ddisgwyl yn y ward cyn mynd i'r theatr.

“Roedd pethau'n llawer mwy hamddenol y tro hwn. Fe es i'n syth i'r adran cleifion allanol, ac roeddwn i'n teimlo fel pe bawn i wedi gadael yr ystafell driniaethau ymhen chwinciad, a chefais fynd adref 45 munud yn ddiweddarach.

“Mae'n wych fod y cyfleuster hwn ar gael i ni ac rwy'n gobeithio y gwnaiff llawer iawn o bobl debyg i fi elwa o'r dull newydd hwnnw o weithio.

“Diolch o galon i'r tîm am bopeth y maent wedi'i wneud i mi, rwy'n ymddiried yn llwyr ynddynt - maent wedi bod yn wych.”

Mae gwella Gwasanaethau Orthopedig ledled Gogledd Cymru yn un o flaenoriaethau pennaf y Bwrdd Iechyd, ac mae gan y Bwrdd ragor o gynlluniau i helpu i leihau nifer y bobl sy'n disgwyl am driniaeth.

Dywedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Trawsnewid, Cynllunio Strategol a Chomisiynu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. “Yn sgil y tarfu a achoswyd gan y pandemig, mae'r rhestr aros am rai triniaethau Orthopedig - er enghraifft, llawdriniaeth i gael clun newydd - wedi cynyddu hyd at bum mlynedd.

“Gwyddom nad yw'r sefyllfa bresennol yn ddigon da o safbwynt cleifion sy'n profi poen a thrallod wrth ddisgwyl am driniaeth fawr ei hangen, ac rydym yn gweithio'n galed i sefydlu pethau i fynd i'r afael â'r ôl-groniad.”