Yn y flwyddyn y dechreuodd Dr Robert Davies weithio fel meddyg ymgynghorol pediatrig, enillodd Gorllewin yr Almaen Gwpan y Byd, cafodd Arlywydd yr Unol Daleithiau Richard Nixon ei ddal yng nghanol sgandal Watergate a disodlwyd Edward Heath fel Prif Weinidog y DU gan Harold Wilson.
Roedd galwyn o betrol yn 50c, peint o laeth yn 4.5c a pheint o gwrw yn 22.5c. Mae 1974 yn teimlo fel byd gwahanol.
Fodd bynnag, un cysonyn dros y 50 mlynedd ers hynny fu Robert, a ddechreuodd fel meddyg ymgynghorol pediatrig yng Ngogledd Cymru.
Roedd ei ymrwymiad i sicrhau bod pobl ifanc yng Ngogledd Cymru yn derbyn gofal yn ymestyn y tu hwnt i ymddeoliad, pan benderfynodd ddod yn ôl fel meddyg ymgynghorol locwm a gweithio mewn clinig adolygu meddyginiaeth ar gyfer plant ag ADHD ac awtistiaeth ddifrifol.
Am ei wasanaeth i'r GIG, dros hanner canrif, mae'n derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig.
Ar ôl derbyn ei wobr, dywedodd Robert: “Rwyf wedi fy synnu. Mae hynny'n crynhoi fy nheimladau mwy neu lai.”
Dechreuodd Robert, 82 oed, ei yrfa yn Ysbyty Dewi Sant ym Mangor sydd bellach wedi’i ddymchwel a hyd at 1995 bu’n gweithio yn yr uned gofal arbennig i fabanod.
Symudodd wedyn i faes pediatreg gymunedol ond parhaodd i weithio ym maes pediatreg gyffredinol ar-alwad yn Ysbyty Gwynedd ar benwythnosau.
Roedd tad Robert yn seiciatrydd ymgynghorol ac mae un o’i feibion yn bediatregydd ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Wrth ofyn pam ei fod yn parhau i weithio, dywedodd Robert: “Rwy’n mwynhau fy ngwaith, rwy'n mwynhau gweld cleifion a'u teuluoedd.
“Rwy’n hoffi’r her dechnegol ac, wrth gwrs, eu helpu.”