Neidio i'r prif gynnwy

Dr Robert Havard Davies, BEM

Yn y flwyddyn y dechreuodd Dr Robert Davies weithio fel meddyg ymgynghorol pediatrig, enillodd Gorllewin yr Almaen Gwpan y Byd, cafodd Arlywydd yr Unol Daleithiau Richard Nixon ei ddal yng nghanol sgandal Watergate a disodlwyd Edward Heath fel Prif Weinidog y DU gan Harold Wilson.

Roedd galwyn o betrol yn 50c, peint o laeth yn 4.5c a pheint o gwrw yn 22.5c. ​ Mae 1974 yn teimlo fel byd gwahanol. ​

Fodd bynnag, un cysonyn dros y 50 mlynedd ers hynny fu Robert, a ddechreuodd fel meddyg ymgynghorol pediatrig yng Ngogledd Cymru. ​

Roedd ei ymrwymiad i sicrhau bod pobl ifanc yng Ngogledd Cymru yn derbyn gofal yn ymestyn y tu hwnt i ymddeoliad, pan benderfynodd ddod yn ôl fel meddyg ymgynghorol locwm a gweithio mewn clinig adolygu meddyginiaeth ar gyfer plant ag ADHD ac awtistiaeth ddifrifol.

Am ei wasanaeth i'r GIG, dros hanner canrif, mae'n derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig. ​

Ar ôl derbyn ei wobr, dywedodd Robert: “Rwyf wedi fy synnu. Mae hynny'n crynhoi fy nheimladau mwy neu lai.”

Dechreuodd Robert, 82 oed, ei yrfa yn Ysbyty Dewi Sant ym Mangor sydd bellach wedi’i ddymchwel a hyd at 1995 bu’n gweithio yn yr uned gofal arbennig i fabanod.

Symudodd wedyn i faes pediatreg gymunedol ond parhaodd i weithio ym maes pediatreg gyffredinol ar-alwad yn Ysbyty Gwynedd ar benwythnosau.

Roedd tad Robert yn seiciatrydd ymgynghorol ac mae un o’i feibion yn bediatregydd ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. ​

Wrth ofyn pam ei fod yn parhau i weithio, dywedodd Robert: “Rwy’n mwynhau fy ngwaith, rwy'n mwynhau gweld cleifion a'u teuluoedd.

“Rwy’n hoffi’r her dechnegol ac, wrth gwrs, eu helpu.”