30.10.2023
Mae caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer canolfan cymorth canser yng Ngogledd Cymru.
Bydd yn cael ei chomisiynu, ei dylunio a’i sefydlu’n llwyr gan Sefydliad Steve Morgan a bydd yn cael ei hadeiladu ar safle Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.
Bydd y ganolfan yn rhoi cymorth ymarferol, seicolegol ac emosiynol i bobl sydd â chanser, yn ogystal â’u teuluoedd a’u ffrindiau, ar draws yr holl ranbarth, gan gynnwys Bangor a Wrecsam.
Mae Gogledd Cymru yn gweld 4,800 o bobl sy’n cael diagnosis canser bob blwyddyn. Y gobaith yw y bydd y ganolfan yn agor yn 2025.
Dywedodd y Fonesig Laura Lee, Prif Weithredwr Maggie's: “Rydym ni wedi gwirioni ein bod wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer ein canolfan yng Ngogledd Cymru.
“Heb gymorth hael Sefydliad Steve Morgan wrth gomisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu, ni fyddem wedi gallu dod â Maggie's i Ogledd Cymru ac am hynny rwyf yn hynod ddiolchgar.
“Mae Sefydliad Steve Morgan wedi ymrwymo i adeiladu tair canolfan Maggie’s, gan gynnwys un yng Ngogledd Cymru – sy’n weithred wirioneddol ryfeddol o ddyngarwch.
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio’n agos gyda Sefydliad Steve Morgan unwaith eto, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, er mwyn sicrhau bod pobl Gogledd Cymru yn cael y cymorth sydd eisoes wedi bod yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl mewn rhannau eraill o Gymru ers 12 mlynedd."
Rhoddodd Sefydliad Steve Morgan £3m i adeiladu’r ganolfan yng Ngogledd Cymru ac mae eisoes wedi comisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu canolfan Maggie's yng Nghilgwri, a agorodd yn swyddogol ar safle Canolfan Ganser Clatterbridge ym mis Medi 2021.
Yn 2022, derbyniodd 18,640 o ymweliadau, gan gynnwys 11,025 o bobl a oedd gyda chanser a 5,816 o ofalwyr.
Mae trydedd ganolfan Maggie's yn Lerpwl, i'w hadeiladu o fewn safle Ysbyty Brenhinol Newydd Lerpwl wrth ymyl Canolfan Ganser newydd Clatterbridge, hefyd yn y camau datblygu, diolch i Sefydliad Steve Morgan.
Dywedodd Liam Eaglestone, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Steve Morgan: “Rydym ni wedi gwirioni i fod yn helpu Maggie’s i ddod â’i chymorth canser hanfodol i bobl Gogledd Cymru, gan sicrhau y bydd ganddynt gymorth arbenigol cynnes a chroesawgar canolfan Maggie’s, sy’n rhad ac am ddim, ar eu stepen drws.
"Mae ein cydweithrediad â Maggie's yn un o'r enghreifftiau cryfaf o'n hathroniaeth o 'ddyngarwch aflonyddgar'. Mae'n tynnu sylw at allu'r Sefydliad i 'roi' yn dda, trwy harneisio ein harbenigedd, ein cymorth ymarferol a'n profiad masnachol i wneud y mwyaf o’n cymorth ariannol."
Rheolir Ysbyty Glan Clwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac mae’n gartref i Ganolfan Trin Canser Gogledd Cymru.
Dywedodd Adele Gittoes, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Dros Dro BIPBC: “Rwyf wedi gwirioni bod caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad hynod bwysig hwn.
“Bydd gweithio ochr yn ochr â Chanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, sydd hefyd wedi’i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd, yn ymestyn a gwella’r cymorth sydd ar gael i bobl sydd â chanser yn ogystal â’u teuluoedd.
“Rwyf eisiau diolch hefyd i Sefydliad Steve Morgan am ei chyllid hael i'r hyn yr wyf yn sicr y bydd yn gyfleuster gwych a gwerthfawr iawn."
Maggie’s Gogledd Cymru, y disgwylir iddi agor yn 2025, fydd y drydedd yng Nghymru, gyda Maggie's Abertawe yn agor yn ôl yn 2011 a Maggie’s Caerdydd yn agor yn 2019.
Yn 2021, cefnogodd y ddwy ganolfan bobl sydd â chanser, yn ogystal â theulu a ffrindiau, dros 16,000 o weithiau.
Mae gan Maggie’s fwy na 26 mlynedd o brofiad yn cefnogi pobl gyda chymorth a gwybodaeth am ganser rhad ac am ddim mewn canolfannau ar draws y DU.
Mae’r elusen yn rhoi pobl sydd â chanser wrth wraidd popeth y mae’n ei gwneud ac yn credu y dylai pawb gael mynediad at gymorth seicolegol ac emosiynol proffesiynol er mwyn helpu i newid y ffordd y maent yn byw gyda chanser.
Mae Maggie’s yn helpu pobl i gymryd rheolaeth yn ôl pan fydd canser yn troi bywyd wyneb i waered, gyda chymorth ar gyfer unrhyw beth o sgileffeithiau triniaeth i bryderon ariannol. Mae timau proffesiynol y canolfannau yn rhoi cymorth a gwybodaeth ac yn cynnal grwpiau a gweithgareddau, pob un wedi'i gynllunio i wneud ymdopi â chanser yn haws.
Bydd cymorth gan staff proffesiynol Maggie’s yn helpu pobl gyda straen, ofn, a gorbryder yn ogystal â phryderon ariannol a chwestiynau ynghylch triniaeth.
I ddod i wybod mwy am Maggie’s, ewch i’r wefan ganlynol: maggies.org
Dilynwch Maggie’s ar Facebook ar: www.facebook.com/maggieswcentres ar gyfer y newyddion a’r straeon diweddaraf ac anfonwch neges atom ni ar Twitter ar @maggiescentres
I ddod i wybod mwy am Sefydliad Steve Morgan, ewch i: stevemorganfoundation.org
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)