Neidio i'r prif gynnwy

Pryderon ynglŷn â chael eich heintio a/neu eich effeithio

Rydym yn deall y gallai cyhoeddi adroddiad yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig a’i ganfyddiadau godi pryderon y cyhoedd neu efallai atgoffa aelodau’r cyhoedd am drallwysiadau gwaed y gallent fod wedi’u cael yn y gorffennol.  

Rydym am eich sicrhau y bydd yr holl roddion gwaed a gesglir yng Nghymru wedi cael eu profi am:  

  • HIV o fis Hydref 1985 ymlaen,  
  • Hepatitis C o fis Medi 1991 ymlaen yng Nghymru.  

Ni fydd unrhyw brawf gwaed positif ar gyfer yr heintiau hyn wedi bod ar gael ar gyfer trallwysiad. 

Os ydych chi'n poeni ynglŷn â chael eich heintio yn dilyn trallwysiad gwaed cyn Medi 1991, mae'r risg o fod wedi cael haint yn isel iawn, ond os ydych chi'n poeni am eich risg, gallwch chi gael mynediad at brawf cyfrinachol ac am ddim ar gyfer Hepatitis C a HIV gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am Hepatitis C ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gallwch hefyd wirio symptomau Hepatitis C a HIV ar dudalennau gwe gwirwyr symptomau GIG Cymru.  

Os ydych yn ansicr ynghylch pryd cawsoch drallwysiad gwaed cyn Medi 1991, gallwch gysylltu â'r Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth y GIG lle credwch y rhoddwyd y trallwysiad yn wreiddiol. Mae’n bosibl y byddan nhw’n gallu eich cefnogi chi drwy’r broses o gyrchu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.  

Gallech hefyd gysylltu â’r Bwrdd Iechyd sydd â’ch cofnodion iechyd ar hyn o bryd i gael cymorth. Mae manylion cyswllt Byrddau Iechyd GIG Cymru ar gael yma. 

Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS)

Nod Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) yw darparu cymorth i bobl sydd wedi’u heintio â Hepatitis C a/neu HIV o ganlyniad i driniaeth y GIG â gwaed yng Nghymru. 

Ei nod yw darparu gwasanaeth taliadau ariannol symlach, Gwasanaeth Cyngor ar Les a gwasanaeth Seicoleg a Llesiant i fuddiolwyr Cymru a’u teuluoedd. 

Mae Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhedeg eu cynlluniau cofrestredig unigol eu hunain.

Yng Nghymru, gall unrhyw un a gafodd drallwysiad heintiedig mewn ysbyty yng Nghymru, waeth ble mae'n byw erbyn hyn, wneud cais i fod ar Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru.

Efallai bod rhai trigolion yng Nghymru wedi cael eu trin mewn lleoliadau gofal iechyd yn Lloegr. Os cawsoch eich trin yn Lloegr, gallwch wneud cais i fod yn rhan o gynllun Lloegr. Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Lloegr a sut i gysylltu â'r tîm ar gael yma

Mae Cynllun Gogledd Iwerddon ar gael yma.

Mae Cynllun yr Alban ar gael yma.

I gofrestru ar gynllun, mae angen:

  1. Cwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar wefan WIBSS;
  2. I'r cais fod wedi cael ei gymeradwyo gan weithiwr proffesiynol meddygol;
  3. Dangos tystiolaeth o drallwysiad a ddarparwyd gan y GIG yng Nghymru cyn mis Medi 1991;
  4. Darparu tystiolaeth o haint Hepatitis C a/neu HIV.

Os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys i wneud cais am gymorth, cysylltwch â'r tîm ar 02921 500 900 neu e-bostiwch wibss@wales.nhs.uk.

Mae Llywodraeth y DU yn sefydlu Cynllun Iawndal Gwaed Heintiedig unigol i oruchwylio’r holl hawliadau iawndal perthnasol ar gyfer Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Wrth i'r gwaith i sefydlu'r cynllun unigol fynd rhagddo, bydd Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru yn parhau i reoli'r gwasanaeth ac mae yno i'ch cefnogi. Ewch i wefan WIBSS am ddiweddariadau pellach.