Bydd adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig wedi cael ei gyhoeddi ar ddydd Llun, 20 Mai 2024 yn dilyn ymchwiliad statudol cyhoeddus annibynnol yn ymwneud â’r defnydd o waed heintiedig.
Sefydlwyd yr ymchwiliad yn 2017 i ymchwilio i sut y daeth miloedd o bobl ledled y Deyrnas Unedig i gael eu heintio â HIV a/neu Hepatitis C drwy gynhyrchion gwaed halogedig rhwng 1970 a 1991. Roedd hyn yn cynnwys cleifion a dderbyniodd gynhyrchion gwaed tra’r oeddent yn derbyn gofal gan sefydliadau etifeddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae’n ddrwg gennym am y niwed, y boen a’r dioddefaint a achoswyd i gleifion a’u hanwyliaid.
Rydym wedi cefnogi’r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn llwyr a byddwn yn parhau i roi cymorth i’r sawl sydd ag anhwylderau gwaedu ac unrhyw un y mae’r trallwysiadau hyn wedi effeithio arnynt.
Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad ar gael ar infectedbloodinquiry.org.uk.
Os ydych chi'n poeni eich bod chi neu un o'ch anwyliaid wedi cael eich effeithio gan gynhyrchion gwaed halogedig, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig ar 0300 0840 088. Mae’r Llinell Gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm ac ar benwythnosau rhwng 9am a 2pm. Bydd y Llinell Gymorth yn agor ddydd Llun, 20 Mai.
Os ydych chi’n poeni am gael eich heintio a/neu eich effeithio, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma: Pryderon ynglŷn â chael eich heintio a/neu eich effeithio
Gallwch ddod o hyd i restr o gwestiynau cyffredin isod: