Yn dilyn canlyniad llwyddiannus cais cynllunio ar gyfer uned iechyd meddwl newydd ar gyfer cleifion mewnol yn Ysbyty Glan Clwyd heddiw, dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Arweiniol BIPBC dros Iechyd Meddwl, Teresa Owen:
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi derbyn cymeradwyaeth gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer y cyfleuster hanfodol hwn, a fydd yn ein cynorthwyo i ddarparu gofal rhagorol.
“Byddwn yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych, partneriaid lleol, y cyhoedd a Llywodraeth Cymru i geisio symud y datblygiad hwn yn ei flaen cyn gynted â phosibl.”
Rydym yn symud ymlaen gyda chynigion ar gyfer uned iechyd meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd er mwyn darparu cyfleuster sy'n addas ar gyfer y 21ain ganrif.
Bydd yr uned newydd, a fyddai'n cynrychioli buddsoddiad o hyd at £84.5 miliwn, yn cymryd lle Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd a'r cyfleuster Iechyd Meddwl Pobl Hŷn i Gleifion Mewnol ym Mryn Hesketh, Bae Colwyn.
Mae adolygiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi tynnu sylw at faterion adeileddol sylweddol yn Uned Ablett ac rydym wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer adeilad newydd modern a phwrpasol ers 2019.
Ym mis Hydref 2022, cymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y cyfleuster newydd gan y Gweinidog Iechyd. Rydym bellach yn awyddus i symud ymlaen at gam nesaf y prosiect.
Cyn datblygu cais cynllunio gyda Chyngor Sir Ddinbych, rydym yn ymgynghori â'r gymuned ynghylch y cynigion drafft newydd. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, y bwriad yw cyflwyno cais cynllunio newydd i'r Cyngor.
Yn ôl ym mis Ionawr 2021, cafodd ein cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ar safle yng nghornel dde-orllewinol campws yr ysbyty ei wrthod gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych ar y sail y byddai'r lleoliad arfaethedig yn cael effaith uniongyrchol ar eiddo rhai preswylwyr cyfagos. Rydym wedi gwrando ar bryderon preswylwyr i ddiwygio'r cynigion yn sylweddol. Y cynnig erbyn hyn yw lleoli'r uned iechyd meddwl newydd yng nghornel ogledd-orllewinol campws yr ysbyty, i ffwrdd o'r holl eiddo preswyl cyfagos. Byddai adeilad presennol Uned Ablett yn aros yn ei le a byddai'n cael ei addasu at ddibenion gwahanol.
Byddai'r cyfleuster newydd yn darparu;
Er mwyn creu darpariaeth newydd i barcio ceir ar gyfer y lleoedd a fyddai’n cael eu colli ar gyfer yr uned iechyd meddwl newydd, mae'r cynigion hefyd yn cynnwys adeiladu maes parcio aml-lawr newydd yng nghornel ogledd-ddwyreiniol campws yr ysbyty, fel y'i cynhwyswyd yn ein cais cynllunio blaenorol. Byddai capasiti meysydd parcio ar yr ysbyty'n parhau i fod yn debyg ar y cyfan â lefel y ddarpariaeth bresennol.
Mae manylion am y cynigion ar gael isod;
Gellir gwneud sylwadau trwy anfon e-bost at dîm y prosiect ar consultationpagesuk@tetratech.com
Rydym yn falch iawn fod ein cynlluniau amlinellol i adeiladu uned iechyd meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd wedi'u cymeradwyo gan y Gweinydd Iechyd.
Gallai'r uned newydd gostio hyd at £84.5 miliwn, a chaiff ei hadeiladu yn lle Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd a'r Uned Iechyd Meddwl i gleifion preswyl sy'n Bobl Hŷn ym Mryn Hesketh, Bae Colwyn.
Mae adolygiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi dwyn sylw at anawsterau adeiladol sylweddol yn Uned Ablett, ac ers 2019, rydym ni wedi bod yn datblygu cynlluniau i adeiladu uned fodern sy'n addas i'w diben yn lle'r uned bresennol.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cymeradwy ein Hachos Busnes Amlinellol, a nawr, byddwn yn cychwyn datblygu Achos Busnes Llawn. Bydd hyn yn cael ei archwilio ymhellach, ac os caiff ei gymeradwyo gan Fwrdd BIPBC a Llywodraeth Cymru, gallai'r gwaith adeiladu gychwyn yn 2024, a gellid derbyn cleifion cyntaf yr adeilad yn 2026. Mae cleifion, gofalwyr, staff a sefydliadau sy'n bartneriaid i ni oll wedi'n helpu ni i gyflawni hyn, a byddant yn parhau i gyfranogi wrth i ni ddatblygu'r cynllun.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
“Mae'n hollbwysig sicrhau bod cyfleusterau iechyd meddwl sy'n addas i'w diben ar gael ledled Cymru a wnaiff roi gofal rhagorol i bobl y bydd arnynt angen cymorth ar frys ar adegau argyfyngus.
“Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i wella amgylchedd gwaith y staff, yn lleihau costau cynnal a chadw, ac yn sicrhau y caiff cleifion a'u teuluoedd yr urddas a'r lle y bydd eu hangen arnynt i wella.
“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei arsylwi'n sylweddol mewn perthynas ag iechyd meddwl ar ôl cael ei roi yn y categori Ymyriadau wedi'u Targedu gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n falch felly o weld bod cynlluniau uchelgeisiol a hanfodol fel y rhain yn symud un cam yn nes.”
Dywedodd Teresa Owen, y Cyfarwyddwr Gweithredol sy'n gyfrifol am Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC:
“Caiff y newyddion hyn eu croesawu gan y nifer helaeth o gleifion, gofalwyr, staff a sefydliadau sy'n bartneriaid i ni sydd wedi cynorthwyo i lunio'r cynigion uchelgeisiol i ni. Mae'n gam sylweddol ymlaen yn ein taith wella, wrth i ni weithio i ddarparu uned iechyd meddwl addas i'w diben yn Ysbyty Glan Clwyd, i alluogi ein staff gweithgar i ddarparu'r gofal gorau posibl y mae ein cleifion yn ei haeddu.
“Nawr, bydd y gwaith yn cychwyn o ddifrif i gwblhau achos busnes manwl a fydd yn cynnwys manylion llawn y costau. Edrychwn ymlaen at rannu ein cynigon â Llywodraeth Cymru a'r rhanddeiliaid niferus eraill sydd â diddordeb yn y datblygiad hanfodol hwn.”
Ein cynlluniau i adeiladu uned iechyd meddwl sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif
Mae'r cynlluniau yn cynnwys ward iechyd meddwl ag 14 gwely ar gyfer pobl hŷn â chyfleusterau en-suite a mannau hamddena gwell. Bydd uned asesu ag 13 gwely ar gyfer cleifion gofal dementia hefyd yn cael ei sefydlu. Bydd hyn yn cynnwys darpariaeth i alluogi teuluoedd a gofalwyr i aros dros nos gyda'u hanwyliaid, a chwrt cadarn, cyfleusterau en-suite yn yr holl ystafelloedd gwely, a mannau i hamdden a chael therapïau.
Hefyd, bydd dwy ward bwrpasol ag 16 o welyau ar gyfer oedolion a bydd dau lecyn dadysgogol ar bob ward, a fydd yn darparu amgylchedd nyrsio diogel ar gyfer cleifion y mae arnynt angen gofal dwys, gan osgoi'r angen i'w trosglwyddo i unedau iechyd meddwl eraill.
Bydd yr uned hefyd yn cynnwys ystafell asesu i alluogi cleifion addas i gael eu symud yn brydlon o'r Adran Achosion Brys, ynghyd â mwy o le yn yr awyr agored ac i gael therapïau a chyfleusterau gwell i staff a theuluoedd.
Byddwn yn cael cymorth gan Gleeds, y partner rheoli'r prosiect a'r costau, a BAM Construction, y partner adeiladu. Mae gan y ddau gwmni brofiad llwyddiannus o gyflawni prosiectau cyfalaf ar raddfa fawr, gan gynnwys y Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i’r Newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd, a agorwyd yn 2018.
Gallwch ddarllen yr Achos Busnes Amlinellol llawn a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yma.
Lleoliad arfaethedig
Adeiladir yr uned newydd arfaethedig ym Maes Parcio 5, yng nghornel ogledd-orllewinol campws yr Ysbyty, oddi wrth y terfynau â chartrefi trigolion lleol. Rydym yn archwilio'r posibilrwydd o sefydlu lleoedd ychwanegol i barcio ceir ar safle'r ysbyty, yn cynnwys nifer o bwyntiau i wefru cerbydau trydan, i sicrhau na fydd unrhyw golledion net o ran y ddarpariaeth barcio.
Bydd opsiynau hefyd yn cael eu hystyried o ran y defnydd o Uned Ablett ac Uned Bryn Hesketh yn y dyfodol.
Amserlen y Prosiect
Bydd yr Achos Busnes Llawn yn cael ei ddatblygu rhwng Tachwedd 2022 a Medi 2023.
Os ceir cymeradwyaeth gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych, Bwrdd BIPBC a Llywodraeth Cymru, dylai gwaith ar y safle gychwyn yn ystod haf 2024, a dylai'r adeilad fod yn barod i dderbyn ei chleifion cyntaf yn ystod haf 2026.
Cymryd Rhan
Bydd cleifion, gofalwyr, trigolion lleol a sefydliadau sy'n bartneriaid i ni yn parhau i wneud cyfraniad allweddol at lunio'r cynigion uchelgeisiol hyn trwy gyfrwng grwpiau defnyddwyr a sesiynau galw heibio yn ystod y misoedd nesaf. Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion yn fuan.