Y Dyngarwr Steve Morgan CBE yn agor canolfan newydd i gynorthwyo cleifion canser yng Ngogledd Cymru
Mae canolfan newydd i gynnig gofal i gleifion canser yng Ngogledd Cymru wedi’i hagor gan y dyngarwr Steve Morgan CBE.
Mae Canolfan Maggie’s Gogledd Cymru yn Adeilad Sefydliad Steve Morgan, a adeiladwyd ar dir Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, wedi'i chomisiynu, ei dylunio a'i hariannu'n llwyr gan Sefydliad Steve Morgan. Bydd y ganolfan newydd yn cynorthwyo ardal gyfan Gogledd Cymru ble bydd 4800 o bobl yn cael diagnosis newydd yn cadarnhau canser bob blwyddyn.
Dywedodd y Fonesig Laura Lee, DBE, Prif Weithredwr Maggie's: “Rydym wrth ein bodd fod ein canolfan newydd yn Sir Ddinbych ar agor a’n bod bellach yn gallu cynorthwyo pobl sy’n byw gyda chanser, gan gynnwys perthnasau a ffrindiau, o bob cwr o Ogledd Cymru.
“Rydym wedi gallu cynnig gwasanaethau Maggie's yng Ngogledd Cymru diolch i gymorth rhyfeddol o hael Sefydliad Steve Morgan i gomisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu ein canolfan, ac rwy’n hynod o ddiolchgar am hynny.
“Mae Sefydliad Steve Morgan wedi ymrwymo i adeiladu tair canolfan Maggie's newydd yn y Gogledd Orllewin - gan gynnwys yr un yng Ngogledd Cymru - ac mae hynny’n weithred ddyngarol wirioneddol ryfeddol.
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at barhau i gydweithio â Sefydliad Steve Morgan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sicrhau ein bod yn cynorthwyo cymaint â phosibl o bobl o bob cwr o'r ardal.
“Mae gwasanaethau Maggie's ar gael i bawb y mae arnynt eu hangen, ac rydym yn eu cynnig yn rhad ac am ddim ac nid oes angen i neb drefnu apwyntiad na chael eu cyfeirio. Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i helpu pobl i ymdopi â'u diagnosis: yn cynnwys paratoi at driniaeth canser, cymorth â’r sgil-effeithiau posibl, cymorth ar ôl triniaeth, cynnig cyngor ynghylch budd-daliadau, neu ymdopi â chanser sydd wedi lledaenu.
“Rwyf wrth fy modd bod Maggie's Gogledd Cymru bellach ar agor, a bod cymorth elusen Maggie’s ar gael ym mhob un o dair canolfan canser y GIG yng Nghymru”.
Fe wnaeth Sefydliad Steve Morgan ddarparu £4 miliwn i adeiladu'r ganolfan yng Ngogledd Cymru, ac mae eisoes wedi comisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu Canolfan Maggie's Cilgwri a agorwyd ar dir Canolfan Ganser Clatterbridge yng Nghilgwri ym mis Medi 2021. Yn 2024, fe wnaeth y ganolfan gynorthwyo pobl bron i 20,000 o weithiau.
Bydd trydedd Ganolfan Maggie's yn Lerpwl yn cael ei hadeiladu o fewn tiroedd Ysbyty Brenhinol Newydd Lerpwl wrth ymyl Canolfan Ganser Clatterbridge newydd yn Lerpwl - cafwyd caniatâd cynllunio yr wythnos diwethaf a bydd hefyd yn cael ei hadeiladu diolch i Sefydliad Steve Morgan.
Dywedodd Steve Morgan CBE, Cadeirydd Sefydliad Steve Morgan: “Mae’n wych fod canolfan newydd Maggie’s yng Ngogledd Cymru wedi agor.
“Bydd y ganolfan newydd yn sicrhau bod gan bobl Gogledd Cymru fynediad hawdd at y cymorth hanfodol ynghylch canser y mae Maggie’s yn ei gynnig ac rydym yn falch o allu galluogi hynny. Ethos y Sefydliad yw 'rhoddi arian yn dda' ac mae ein partneriaeth ag elusen Maggie's yn enghraifft berffaith o sut y gallwn harneisio ein harbenigedd, ein cymorth ymarferol a'n profiad masnachol i fanteisio’n llawn ar ddylanwad ein cymorth ariannol.
“Testun cyffro i ni yw gweld y ganolfan hon yn gwneud yr hyn y bwriedir iddi ei wneud - cynorthwyo pobl â chanser yn ystod y cyfnod anoddaf yn eu bywydau o bosibl - a pharhau â’n partneriaeth ag elusen Maggie’s drwy ddatblygu’r ganolfan yn Lerpwl.”
Roedd Jules Peters, gwraig y diweddar Mike Peters o'r band roc Cymreig The Alarm, hefyd yn bresennol yn yr agoriad swyddogol.
Bu farw Mike yn gynharach eleni ar ôl byw gyda chanser am 30 mlynedd. Canodd eu mab Evan gyda Rhys Meirion, y canwr opera o Gymru, i helpu i ddathlu'r agoriad swyddogol.
Dywedodd Jules: “Mae’n hyfryd bod yma heddiw i weld Canolfan Maggie’s yng Ngogledd Cymru yn agor. Mae angen mawr am gymorth arbenigol a rhad ac am ddim elusen Maggie’s i bobl sy'n byw gyda chanser, a bydd y ganolfan yn helpu nifer fawr o bobl yn ystod cyfnod y gwn ei fod yn anodd. Byddai Mike wedi bod wrth ei fodd yn gweld y ganolfan yn agor, ac rwy'n siŵr y byddem wedi ymweld â’r ganolfan.”
Cafodd Kevin Owen, 61 oed, ddiagnosis yn cadarnhau canser yn 2021 ac mae wedi cael cymorth gan Ganolfan Maggie's Cilgwri ac roedd hefyd yn bresennol yn agoriad swyddogol y ganolfan.
Dywedodd: “Roeddwn i’n ffodus yn ystod ac ar ôl fy nhriniaeth canser fod Canolfan Maggie's yng Nghanolfan Canser Clatterbridge, Cilgwri, yn agos at fy nghartref. Mae'r cymorth a gefais gan Maggie's wedi helpu i sicrhau bod taith anodd ychydig yn haws. Fel Cymro Cymraeg yn hanu o Fethesda, roeddwn yn cysylltu â phobl eraill o'r ardal honno yr oedd canser yn effeithio arnynt a sylweddolais pa mor ffodus oeddwn i i fod yn agos at Ganolfan Maggie's.
“Bydd y Ganolfan Maggie's newydd yng Nglan Clwyd yn ei gwneud hi'n llawer haws i bobl ledled Gogledd Cymru gael y cymorth gwych a gynigir. Mae’n wasanaeth cymorth mawr ei angen ar gyfer pobl y maes canser yn effeithio arnynt yng Ngogledd Cymru.”
Caiff Ysbyty Glan Clwyd ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a lleolir Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yno.
Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym wrth ein bodd bod Gogledd Cymru bellach yn gartref i ganolfan Maggie's newydd, sy’n cynnig cymorth amhrisiadwy i bobl sy'n byw gyda chanser ledled Gogledd Cymru. Mae’r ffaith fod y ganolfan wedi’i sefydlu yn Ysbyty Glan Clwyd, ble cafodd ein Canolfan Trin Canser yng Ngogledd Cymru ei hail-ddynodi'n ddiweddar yn Ganolfan Ragoriaeth Tessa Jowell ar gyfer niwro-oncoleg, yn cryfhau ein gallu rhanbarthol. Mae'n sicrhau bod gofal arbenigol a thosturiol ychwanegol ar gael yn nes at gartrefi cleifion. Rydym yn ddiolchgar i Sefydliad Steve Morgan a Maggie's am wireddu’r ganolfan angenrheidiol hon."
Maggie's Gogledd Cymru yw'r drydedd Ganolfan Maggie's yng Nghymru; agorwyd Canolfan Maggie's Abertawe yn 2011 a Chanolfan Maggie's Caerdydd yn 2019. Yn ystod 2024, fe wnaeth y ddwy ganolfan yn Ne Cymru gynorthwyo pobl â chanser, yn ogystal â pherthnasau a ffrindiau, fwy na 18,500 o weithiau.
Mae gan Maggie's 30 mlynedd o brofiad ac arbenigedd yn cynnig cymorth a gwybodaeth am ganser am ddim mewn canolfannau ledled y DU. Adeiladwyd y canolfannau ar dir ysbytai trin canser y GIG, ac maent yn fannau cynnes a chroesawgar sy’n cael eu rhedeg gan staff arbenigol, sy'n helpu pobl i fyw'n dda gyda chanser.
Mae elusen Maggie's yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar roddion gwirfoddol i gynorthwyo a thyfu ei rhwydwaith o ganolfannau ac i ddatblygu ei rhaglen gymorth unigryw o ansawdd uchel. Nod yr elusen yw gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl er gwell i bobl sy'n byw gyda chanser a'u perthnasau a'u ffrindiau.
Rydym am i'n canolfannau gynorthwyo cymaint â phosibl o’r bobl hyn a’u perthnasau ac rydym yn dibynnu ar haelioni cymunedau o amgylch y canolfannau i wireddu hynny.
I gael rhagor o wybodaeth am Maggie's yng Ngogledd Cymru a sut allwch chi gynorthwyo'r ganolfan, trowch at: https://www.maggies.org/our-centres/maggies-north-wales/
Mae canolfan cymorth canser newydd yng Ngogledd Cymru wedi dathlu 'gosod carreg gopa' - seremoni draddodiadol i nodi cwblhau rhan uchaf yr adeilad. Darllenwch fwy yma: 'Gosod carreg gopa' yng nghanolfan cymorth canser newydd Gogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae'r gwaith ar y ganolfan Maggie's newydd yn Ysbyty Glan Clwyd yn mynd rhagddo'n dda â’r lluniau diweddar yn dangos sut mae'r strwythur wedi datblygu. Bydd y seremoni swyddogol i osod y garreg gopa ar 20 Mawrth.
Mae disgwyl i'r adeilad agor yr hydref hwn. Bu’r gwaith adeiladu yn bosibl oherwydd buddsoddiad hael o £4m gan Sefydliad Steve Morgan. Mae ein lluniau’n dangos y ffrâm ddur, y to, y paneli solar, y ffenestri a cham cyntaf y cladin allanol sydd i gyd bellach wedi’u cwblhau.
Bydd y ganolfan Maggie's newydd yn cynnig cymorth ymarferol, seicolegol ac emosiynol am ddim i bobl â chanser o bob rhan o'r rhanbarth, yn ogystal â'u teuluoedd a'u ffrindiau.
Am ragor o wybodaeth am y gwaith a wneir gan Maggie’s, ewch i: Maggie's, Gogledd Cymru | Maggie's
Am ragor o wybodaeth am waith elusennol Sefydliad Steve Morgan, ewch i: Sefydliad Steve Morgan – Sefydliad Elusennol sy’n darparu Cyllid, Cymorth a Chyngor
Mae canolfan cymorth canser Maggie's yn Sir Ddinbych yn dechrau ar ei thaith diolch i £4 miliwn gan Sefydliad Steve Morgan. Darllenwch fyw yma: Torri tir ar safle canolfan cymorth canser newydd yng Ngogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Ymunwch a ni am ddiweddariad Canolfan Maggie’s Fforwm ar-lein - 21 Ionawr 2025 - 5:30pm-6:30pm. Ebostiwch bcu.getinvolved@wales.nhs.uk i gofrestru i'r sessiwn ar-lein.
Diweddariad ar ddatblygu canolfan newydd Maggie's yng Ngogledd Cymru
Mae'r gwaith wedi dechrau. Hyd yn hyn, gosodwyd mynedfa maes parcio newydd ar Faes Parcio 2 yr ysbyty ac mae gwaith paratoi ar y gweill cyn y cyfnod adeiladu.
Dros yr ychydig wythnosau nesaf bydd newidiadau amrywiol yn dod i'r amlwg o amgylch y maes parcio hwnnw, wrth i'r gwaith barhau. Bydd y caban, sef swyddfa'r staff diogelwch cyn cyflwyno parcio am ddim, yn cael ei symud.
Mae ffensys eisoes yn cael eu gosod o amgylch safle'r gwaith ac maent wrthi'n addasu rhai o'r polion golau.
Bydd gwaith cwympo coed yn dechrau yr wythnos nesaf er mwyn trin y coed anfrodorol. Mae'r cynllun tirlunio cynhwysfawr, sydd wedi ei gynnwys ym mriff y cynllun, yn cyfleu cynnydd net mewn coed o amgylch y datblygiad.
Bydd nwyddau’n cael eu danfon i’r safle a hoffem atgoffa ymwelwyr o'r gwaith ffordd sy'n deillio o'r gwaith ar safle adeiladu Pure Homes, ger Ysbyty Glan Clwyd. Felly, os yw’n bosibl, cofiwch ganiatáu amser ychwanegol i deithio i Ysbyty Glan Clwyd hyd nes y clywch yn wahanol.
Yn amlwg, yn ystod rhai cyfnodau, bydd y gwaith yn amharu rhywfaint ar niferoedd y lleoedd parcio sydd ar gael. Yn gyffredinol, ni fydd unrhyw golled net o leoedd parcio ar y safle oherwydd y gwaith adeiladu.
Os oes gennych apwyntiad claf allanol, byddai'n help mawr i ni pe gallai rhywun eich gollwng a'ch casglu er mwyn rheoli nifer y lleoedd parcio sydd ar gael ar y safle. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen.
Bydd y datblygiad hwn yn dod ag adnodd gwerth chweil sydd i’w groesawu gan gleifion canser presennol a blaenorol, a’u teuluoedd, ledled Gogledd Cymru.
Cyfarfod rhanddeiliaid yn “llwyddiannus iawn”
Mynychodd dros 40 o bobl gyfarfod rhanddeiliaid yn ddiweddar, a oedd yn egluro rôl Maggie Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd.
Agorwyd y trydydd cyfarfod, a gynhelir i unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun, gan Jalibani Ndbele, cyfarwyddwr gweithrediadau Ysbyty Glan Clwyd. Rhoddodd Sarah Beard, cyfarwyddwr datblygu busnes Maggie, gyflwyniad ar rai o ddyluniadau diweddaraf CGI y ganolfan newydd (gweler lluniau).
Cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb estynedig, lle bu’r panel yn ymateb i ymholiadau am barcio, dyluniad, mynediad o ardaloedd eraill o fwn y rhanbarth, y gwasanaethau fydd yn cael eu darparu a sut bydd y ganolfan newydd yn cydweithio gyda Canolfan Ganser Gogledd Cymru.
Dywedodd Sarah Beard: “Roedd y sesiwn rhanddeiliaid diweddaraf yn llwyddiant mawr. Fe gawson ni gwestiynau diddorol a meddylgar, a phobl sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau ni yn y gorffennol yn adrodd eu hanes.
“Mae’n bwysig iawn i ni ein bod yn ymgysylltu efo phawb ac yn bod yn glir am ein bwriad yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd, clinigwyr a chynrychiolwyr etholedig.”
Dywedodd Jalibani Ndbele: “Roedd hi’n dda iawn cael sgwrs gadarnhaol ac ysbrydoledig am wasanaeth newydd sy’n dod i Ysbyty Glan Clwyd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu y ganolfan newydd hon i bobl Gogledd Cymru, ac ychwanegu at y gwasanaethau sydd gennym yn barod ar gyfer pobl sydd efo canser, eu teuluoedd a’u ffrindiau.”
Bydd rhagor o sesiynau ar gyfer rhanddeiliaid yn cael eu trefnu wrth i’r brosiect fynd yn ei flaen. Mae’r sesiynau ar agor i’r cyhoedd, a gellid cael rhagor o wybodaeth amdanyn nhw drwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol ni, Maggie ac The Steve Morgan Foundation, a thrwy edrych ar y dudalen hon sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf.
*Mae prosiect Maggie Gogledd Cymru yn cael ei hariannu’n garedig iawn gan The Steve Morgan Foundation.
Tarfu posibl ar lif y traffig ar safle Ysbyty Glan Clwyd
Er mwyn hwyluso'r gwaith adeiladu ar Ganolfan Cymorth Canser Maggie's yn Ysbyty Glan Clwyd, bydd rhywfaint o addasiadau i lif y traffig ar y safle.
O ddydd Iau, 11 Gorffennaf, gallai fod tarfu i gerbydau sy'n mynd i Ysbyty Glan Clwyd trwy'r brif ffordd oddi ar y gylchfan, gan fod lôn wedi cael ei chau.
Mae'r gwaith yma yn angenrheidiol er mwyn addasu'r marciau i'r ffordd a'r mynedfeydd i'r maes parcio cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau ar y ganolfan. Caiff blaenoriaeth ei rhoi i ambiwlansys brys bob amser.
Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi.
Byddwn yn parhau i'ch diweddaru am y datblygiad ac unrhyw faterion traffig pellach ar y safle ar ein gwefan, yma: Canolfan Maggie's Gogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Mae gwaith paratoi ar fin dechrau ar y Ganolfan Maggie’s newydd yn Ysbyty Glan Clwyd:
Darllenwch fwy yma: Gwaith ar Ganolfan Maggie's newydd ar gyfer Gogledd Cymru ar fin dechrau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Mae caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ar gyfer canolfan cymorth canser newydd yng Ngogledd Cymru.
Darllenwch fwy yma: Canolfan Cymorth Canser Maggie's i gael ei hadeiladu yn Sir Ddinbych gyda £3 miliwn gan Sefydliad Steve Morgan
Cyhoeddir cynlluniau ar gyfer canolfan cymorth canser newydd.
Darllenwch fwy yma: Canolfan cymorth canser newydd yn dod i Ogledd Cymru – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)