Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Maggie's yng Ngogledd Cymru

Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i weld diweddariadau am y Ganolfan Maggie’s newydd cyffrous sy’n cael ei hadeiladu yn safle Ysbyty Clan Clwyd ym Modelwyddan, Gogledd Cymru. 

Mae Maggie’s yn rhoi cymorth am ddim i bobl sydd â chanser ar draws y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’u teuluoedd a’u ffrindiau, yn ei chanolfannau cynnes a chroesawgar. 

Mae staff arbenigol, sy’n helpu pobl i fyw’n well â chanser, yn darparu gofod hamddenol i ffwrdd o amgylcheddau clinigol. Dewiswyd Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer y ganolfan Maggie’s newydd oherwydd dyma hefyd safle Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru. 

Yma, gall unigolyn sy’n byw gyda’r clefyd gwrdd â phobl sy’n deall yr hyn y maent yn mynd drwyddo, neu gallant gymryd eiliad i hel meddyliau. 

Mae Sefydliad Steve Morgan wedi cytuno i gefnogi’r prosiect yn ariannol, ar ôl ariannu’r prosiect cyfalaf ar gyfer Maggie’s Wirral ar dir Canolfan Ganser Clatterbridge yn 2021. 

Sefydlwyd Maggie’s gan Maggie Keswick Jencks a’i gŵr, Charles Jencks, ar ôl iddi gael gwybod ym mis Mai 1993 fod y canser yn ei bron wedi dychwelyd. 

 

I ddod o hyd i fwy am Maggie’s a’i hanes, ewch i:  maggies.org 

Dilynnwch Maggie’s ar Facebook ar www.facebook.com/maggieswcentres am y newyddion a’r straeon diweddaraf a thrydarwch @maggiescentres 

I ddod o hyd i fwy am Sefydliad Steve Morgan, ewch i: stevemorganfoundation.org 

 

Diweddariadau: 

10.07.2024

Tarfu posibl ar lif y traffig ar safle Ysbyty Glan Clwyd

Er mwyn hwyluso'r gwaith adeiladu ar Ganolfan Cymorth Canser Maggie's yn Ysbyty Glan Clwyd, bydd rhywfaint o addasiadau i lif y traffig ar y safle.

O ddydd Iau, 11 Gorffennaf, gallai fod tarfu i gerbydau sy'n mynd i Ysbyty Glan Clwyd trwy'r brif ffordd oddi ar y gylchfan, gan fod lôn wedi cael ei chau.

Mae'r gwaith yma yn angenrheidiol er mwyn addasu'r marciau i'r ffordd a'r mynedfeydd i'r maes parcio cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau ar y ganolfan. Caiff blaenoriaeth ei rhoi i ambiwlansys brys bob amser.

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi.

Byddwn yn parhau i'ch diweddaru am y datblygiad ac unrhyw faterion traffig pellach ar y safle ar ein gwefan, yma: Canolfan Maggie's Gogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

09.07.2024 

Mae gwaith paratoi ar fin dechrau ar y Ganolfan Maggie’s newydd yn Ysbyty Glan Clwyd: 

Darllenwch fwy yma: Gwaith ar Ganolfan Maggie's newydd ar gyfer Gogledd Cymru ar fin dechrau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

 

30.10.2023 

Mae caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ar gyfer canolfan cymorth canser newydd yng Ngogledd Cymru. 

Darllenwch fwy yma: Canolfan Cymorth Canser Maggie's i gael ei hadeiladu yn Sir Ddinbych gyda £3 miliwn gan Sefydliad Steve Morgan 

 

09.11.2021 

Cyhoeddir cynlluniau ar gyfer canolfan cymorth canser newydd. 

Darllenwch fwy yma: Canolfan cymorth canser newydd yn dod i Ogledd Cymru – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)