Mae'r dudalen hon yn darparu diweddariadau am y Ganolfan Maggie newydd sy’n cael ei hadeiladu yn safle Ysbyty Clan Clwyd ym Modelwyddan, Gogledd Cymru. Mae Maggie’s yn rhoi cymorth am ddim i bobl sydd â chanser ar draws y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’u teuluoedd a’u ffrindiau, yn ei chanolfannau cynnes a chroesawgar. Mae staff arbenigol, sy’n helpu pobl i fyw’n well â chanser, yn darparu gofod hamddenol i ffwrdd o amgylcheddau clinigol.
Dewiswyd Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer y ganolfan Maggie’s newydd oherwydd dyma hefyd safle Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru. Yma, gall unigolyn sy’n byw gyda’r clefyd gwrdd â phobl sy’n deall yr hyn y maent yn mynd drwyddo, neu gallant gymryd eiliad i hel meddyliau.
Mae Sefydliad Steven Morgan wedi cytuno i gefnogi’r prosiect yn ariannol, ar ôl ariannu’r prosiect cyfalaf ar gyfer Maggie’s Wirral ar dir Canolfan Ganser Clatterbridge yn 2021. Sefydlwyd Maggie’s gan Maggie Keswick Jencks a’i gŵr, Charles Jencks, ar ôl iddi gael gwybod ym mis Mai 1993 fod y canser yn ei bron wedi dychwelyd.
Dilynnwch Maggie's ar Facebook a X (Twitter)