Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau ar waith i gynorthwyo cleifion, staff a gwasanaethau dros y dyddiau nesaf

Yn sgil y rhagolygon am dywydd garw dros y dyddiau nesaf, rydym yn cynghori pobl i gadw’n iach a bod yn eithriadol o ofalus os byddant yn teithio i'r ysbyty i gael apwyntiad.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn am eira, rhew ac amodau oer yng Ngogledd Cymru o heno tan fore yfory. Gall rhai ardaloedd, yn enwedig tir uwch, brofi 5-20cm o eira, ffyrdd rhewllyd, a tharfu ar deithio.

Mae ein hysbytai yn dal yn eithriadol o brysur ar hyn o bryd wrth i ni barhau i reoli galw arferol y gaeaf ar ein gwasanaethau. Ynghyd â hynny, rydym wedi wynebu pwysau ychwanegol yn sgil heintiau tymhorol a firysau anadlol, yn ogystal ag effaith y tywydd garw a darodd y rhanbarth y penwythnos diwethaf.

Oherwydd hynny, mae'r Bwrdd Iechyd yn rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau y caiff gwasanaethau eu cynorthwyo’n llawn yn ystod y cyfnod hwn er mwyn lleihau unrhyw darfu posibl. Rydym yn ymdrin â’r mater hwn fel digwyddiad critigol mewnol er mwyn sicrhau y gallwn gynnig y cymorth angenrheidiol i'n gwasanaethau, staff a chleifion a lleiafu unrhyw darfu.

Sicrhewch eich bod yn cynllunio ymlaen llaw os byddwch yn mynd i apwyntiadau neu’n ymweld ag ysbytai. Dylai unrhyw un sydd ag apwyntiad fynd i’r apwyntiad hwnnw oni bai bod  y Bwrdd Iechyd yn dweud na ddylent. Cysylltir yn uniongyrchol â chleifion os bydd angen aildrefnu unrhyw apwyntiadau neu glinigau.

Gofynnwn hefyd i bobl ddarllen ein gwybodaeth am Wasanaethau Iechyd Lleol i sicrhau eu bod yn cael gofal a chymorth yn y lle mwyaf priodol os bydd angen hynny arnynt. Mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael i bobl, er enghraifft, Gwasanaeth 111 GIG Cymru, ein hunedau mân anafiadau a'n fferyllfeydd, a gellir defnyddio’r gwasanaethau hyn yn gyflym a heb apwyntiad.

Os byddwch chi’n mentro allan dros y dyddiau nesaf, cofiwch lapio amdanoch yn dynn a gwisgo esgidiau priodol oherwydd gallai rhai palmentydd fod yn rhewllyd a gallai hynny gynyddu’r perygl o lithro a chael codymau.

Byddem hefyd yn annog pobl i holi sut mae pobl hŷn neu bobl sy’n byw eu hunain. Mae'r tywydd oer yn gwaethygu’r perygl o ddal hypothermia, yn enwedig ymhlith yr henoed, yn ogystal â chynyddu'r perygl o gael anafiadau megis llithro neu gael codymau pan fydd hi’n rhewllyd.

Gellir canfod rhagor o wybodaeth trwy droi at ein Hwb Cadw’n Iach y Gaeaf Hwn.

Mae gwybodaeth a chyngor hefyd ar gael ar wefan y Swyddfa Dywydd.