Neidio i'r prif gynnwy

"Roedd fy nghorff yn methu – ni allwch ddeall difrifoldeb posibl y ffliw."

14 Hydref, 2024

Mae cyn-filwr o Ogledd Cymru a thad i bedwar wedi disgrifio sut y treuliodd bron i bythefnos mewn coma wedi’i ysgogi mewn uned gofal dwys ar ôl dal y ffliw

Bu Alan Watson, 55 oed, yn yr ysbyty am fwy na mis wrth i staff weithio i atal ei gorff rhag methu’n llwyr. 

Mae'n dweud na all neb ddeall beth wnaeth ei brofi – ac ychydig sy'n sylweddoli pa mor ddifrifol y gall ffliw fod.

Mae Alan yn un o blith bron i 1,000 o gleifion a gafodd brawf positif am y ffliw mewn ysbytai yng Ngogledd Cymru y llynedd. Bellach, mae'r bwrdd iechyd yn annog pawb sy'n gymwys i gael brechlyn blynyddol y GIG rhag y ffliw i dderbyn eu gwahoddiad i gael eu hamddiffyn y gaeaf hwn.

Roedd Alan, a wasanaethodd am 12 mlynedd ac ar sawl gweithrediad tramor, ar ei ffordd i'r gwaith pan wnaeth cydweithiwr ei stopio a dweud wrtho fod ei wefusau "yn edrych yn las". Roedd ganddo beswch cas, ond nid oedd wedi ystyried y gallai hynny fod yn waeth nag annwyd drwg.  

Aeth i'w feddygfa a chanfuwyd bod ganddo lefelau isel iawn o ocsigen yn ei waed, felly rhuthrodd i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Ni all gofio unrhyw beth ar ôl iddo gael ei frysio i’r uned gofal critigol.

"Methais ben-blwyddi fy ngefeilliaid a’r Nadolig, ac mae gen i graith ar fy ngwddf yn sgil cael traceostomi i'm helpu i anadlu," meddai.

"Roedd fy nghorff yn methu ac nid oedd fy organau yn gweithio, felly bu’n rhaid fy rhoi mewn coma ddwywaith. Heb hynny, byddwn wedi marw.

"Ni allwch ddeall difrifoldeb posibl y ffliw nes bydd hynny’n digwydd i chi, ac nid wyf yn credu y gall unrhyw un ddeall beth wnes i ei brofi."

 

Yn ddiweddarach, canfu Alan fod y ffliw, niwmonia a COVID-19 arno. Mae diabetes math 2 ar Alan, felly byddai Alan wedi bod yn gymwys i gael brechlyn blynyddol y GIG rhag y ffliw - ond nid oedd wedi derbyn y cynnig.

Dywedodd: "Pan oeddwn i'n ymwybodol eto, daeth fy nheulu i lawr i'm gweld o Newcastle ac rwy'n cofio'r nyrs yn gofyn iddynt bryd hynny, 'Ydych chi wedi cael eich brechlyn rhag y ffliw?'

"Os bydd rhywun yn gofyn i mi nawr, ‘Ydych chi’n mynd i gael eich brechu rhag y ffliw?’ ‘ydw, yn bendant’ fydd yr ateb. 

Mae Alan, o Wrecsam, yn parhau i wella ac yn mynychu clinigau meddygon arbenigol yn y Maelor, ond mae’n dal i brofi atgofion annifyr am ei salwch. 

Bydd partner Alan, Del, yn dal yn synnu wrth feddwl pa mor gyflym y gwaethygodd ei gyflwr. 

"Roedd mor anodd dirnad hynny," meddai. "Digwyddodd y cyfan mor gyflym – roeddem yn meddwl fod ganddo beswch drwg, ond ymhen dim yr oedd yn yr uned gofal critigol.

"Ac mae hi bron iawn yr un adeg o’r flwyddyn erbyn hyn - ac mae cymaint o’r teimladau hynny yn dychwelyd."
 

Lleihau eich risg o salwch difrifol

Mae brechlynnau’r GIG rhag y ffliw bellach ar gael i unrhyw un sydd mewn mwy o berygl o ddal salwch difrifol a achosir gan y ffliw, gan gynnwys pawb sy’n 65 mlwydd oed neu'n hŷn, a phobl sydd ag ystod eang o gyflyrau iechyd isorweddol – gan gynnwys diabetes, asthma, a chlefyd y galon, yr afu a'r arennau.

Mae merched beichiog, gofalwyr a phobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn gymwys, a bydd plant 2-16 oed fel arfer yn cael cynnig brechlyn di-boen rhag y ffliw a chwistrellir trwy’r trwyn yn yr ysgol neu yn eu meddygfa.

Mae brechlynnau rhag ffliw yn lleihau eich risg o ddal y ffliw, yn lleihau difrifoldeb salwch os gwnewch hynny, ac yn lleihau'r posibilrwydd y gwnewch ei ledaenu i bobl eraill.

Bydd brechlyn rhag COVID-19 yn ystod yr Hydref hefyd yn cael ei gynnig i bobl sy’n wynebu’r perygl mwyaf, gan gynnwys unrhyw un sy'n 75 oed neu'n hŷn a phobl sydd â system imiwnedd wannach yn sgil cyflwr iechyd neu rai triniaethau meddygol. Efallai y bydd pobl hŷn a merched beichiog hefyd yn cael eu galw i gael eu brechu rhag RSV

Dywedodd Dr Jane Moore, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd yng Ngogledd Cymru: "Mae stori Alan yn profi na allwch fyth ragweld pa mor ddifrifol y gallai haint difrifol fel ffliw effeithio arnoch chi neu ar eich anwyliaid - yn enwedig os ydych chi neu os ydynt hwy yn hŷn, neu os oes gennych gyflwr iechyd isorweddol. 

"Y ffordd orau o leihau eich risg o ddal salwch difrifol a achosir gan firysau’r gaeaf megis y ffliw, COVID-19 ac RSV yw sicrhau eich bod chi'n manteisio ar y cynnig i gael eich brechu rhag y firysau hyn. Gallai hyn eich helpu i osgoi salwch cas a hirhoedlog, neu gymhlethdodau a allai eich gorfodi i aros am gyfnod hir yn yr ysbyty.

"Os ydych chi neu os yw’r bobl sy’n bwysig i chi yn gymwys i gael y brechlynnau, edrychwch am fanylion eich apwyntiad neu glinigau a hysbysebir gan eich meddygfa – a chofiwch fynd yno i gael eich diogelu y gaeaf hwn."

Mae manylion llawn y meini prawf cymhwystra i gael brechlynnau rhag y ffliw, COVID-19 ac RSV, a sut y gallwch chi neu'ch anwyliaid gael y brechlynnau hynny yng Ngogledd Cymru, ar gael yma.
 

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio neu dilynwch ni ar Whatsapp.