Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad 7 Ionawr 2025

Yn dilyn gostyngiad yn nifer yr achosion o'r ffliw a salwch anadlol yn ein hysbytai, nid ydym bellach yn gofyn i gleifion, ymwelwyr a staff wisgo masgiau wyneb ar ein safleoedd

Mae ein timau wedi gweld gostyngiad parhaus yn nifer y cleifion sy'n profi'n bositif am y ffliw dros y dyddiau diwethaf. Er hynny, mae'r feirws yn dal i fod ar led yn y gymuned – ac rydym yn parhau i ofyn i'r cyhoedd ein helpu i leihau'r lledaeniad trwy gymryd rhai camau syml.

Mae'r rhain yn cynnwys cael brechiadau'r gaeaf os ydych chi'n gymwys, osgoi ymweld â'ch anwyliaid yn yr ysbyty os ydych chi'n sâl, a rheoli symptomau ysgafn a chymedrol y ffliw neu feirysau eraill y gaeaf yn ddiogel gartref.

Gall cleifion, ymwelwyr a staff ddewis gwisgo masg yn ein hysbytai os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Byddwn yn parhau i ddarparu masgiau wyneb wrth fynedfeydd ysbytai ac mewn mannau clinigol.

Mae'n bosibl y bydd rhai rhannau o'n hysbytai sy'n trin cleifion â system imiwnedd wannach yn parhau i ofyn i gleifion, ymwelwyr a staff wisgo masg. Bydd hyn yn seiliedig ar asesiad risg lleol.

Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Dechreuodd tymor y ffliw yn gynnar eleni. Roedd nifer y cleifion â’r ffliw yng Ngogledd Cymru yn uwch nag arfer yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd, ac roedd yn parhau i gynyddu yn ystod wythnosau cyntaf mis Rhagfyr.

“Mae cyflwyno masgiau yn ein hysbytai wedi’n helpu i gyfyngu ar ledaeniad salwch ac wedi amddiffyn cleifion agored i niwed sydd yn ein gofal. Hoffwn ddiolch i'n cleifion, eu teuluoedd a'u hanwyliaid, a'n holl staff am eu cefnogaeth dros yr wythnosau diwethaf.

“Rydym yn parhau i annog pobl i ofalu amdanyn nhw eu hunain gan ddilyn rhai camau syml i leihau eu risg o salwch, yn enwedig yn ystod y tywydd oer. Mae'r ffliw a feirysau eraill yn dal i fod ar led, felly amddiffynnwch eich hun trwy gael brechlynnau'r gaeaf os ydych chi'n gymwys."

Gall pobl sy'n gymwys alw heibio heb apwyntiad i gael brechlyn rhag y ffliw neu COVID-19. Mae rhagor o glinigau brechu galw heibio ar gael mewn lleoliadau ledled Gogledd Cymru yn ystod mis Ionawr.

Mae ein timau atal heintiau wedi bod yn monitro achosion o ffliw a chlefydau'r gaeaf eraill yn fanwl yn ein hysbytai, ac wedi bod yn asesu lefelau haint yn ddyddiol.

Byddwn yn parhau i adolygu'r trefniadau hyn. Mewn rhai mannau, efallai y bydd angen cyfyngu ar ymweliadau. Bydd hyn yn seiliedig ar asesiadau risg lleol – siaradwch â staff ein wardiau a’n hadrannau i ofyn am gyngor, neu os oes gennych chi unrhyw bryderon.
 

Cyfyngu ar ledaeniad firysau'r gaeaf

Hefyd, rydym yn gofyn i'r cyhoedd ein helpu i gyfyngu ar ledaeniad firysau'r gaeaf ac atal salwch drwy:

  • Osgoi ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty os oes gennych beswch, annwyd, dolur gwddf, neu dymheredd uchel. Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau sy'n cynnwys chwydu neu ddolur rhydd aros o leiaf 48 awr ar ôl i'w symptomau ddod i ben cyn ymweld ag un o'n hysbytai.
  • Gwneud yn siŵr eich bod yn cael y brechlynnau gaeaf yr ydych yn gymwys i'w cael i helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag salwch difrifol, a lleihau lledaeniad firysau yn y gymuned. Mae mwy o ddyddiadau ym mis Ionawr bellach ar gael yn ein clinigau galw heibio ar gyfer brechlynnau rhag y ffliw a COVID-19.
  • Rheoli symptomau ysgafn a chymedrol y ffliw neu firysau gaeaf eraill yn ddiogel gartref, a cheisio osgoi ei drosglwyddo i eraill. Mae cyngor a meddyginiaethau ar gael gan fferyllfeydd cymunedol lleol, neu GIG 111 Cymru. Os ydych chi'n profi symptomau difrifol neu'n cael trafferth anadlu, ewch i Adran Achosion Brys.
  • Golchi eich dwylo neu ddefnyddio diheintydd dwylo yn rheolaidd, a chyn mynd i mewn i un o'n wardiau neu leoliadau clinigol.
  • Osgoi eistedd ar welyau cleifion, neu ddefnyddio toiledau cleifion. Gofynnwch i'n staff ble gallwch ddod o hyd i'r toiled ymwelwyr agosaf.
  • Gorchuddio'ch ceg os ydych chi'n tisian neu'n pesychu. Defnyddio hances a gwneud yn siŵr eich bod yn cael ei gwared mewn bin ac yn golchi'ch dwylo. Os nad oes gennych hances, ceisiwch disian neu beswch i mewn i gamedd eich penelin.