Dywedodd Carrie Hargreaves o Gefn Meiriadog ger Llanelwy ei bod wedi cael ei hysbrydoli i wirfoddoli yn ei Chanolfan Mi Fedraf leol ar ôl cael trafferth â galar ar ôl colli ei Mam i ganser y llynedd.
"Mi gollais fy mam y llynedd i ganser ar ôl iddi frwydro am chwe blynedd" eglurodd.
"Rydym yn deulu agos, ac roedd fy mam bob amser yng nghanol popeth. Pan fu farw, roedd yn gymaint o ergyd i ni, ac roeddem ar chwâl.
"Nid oedd gennym neb i siarad â nhw, ac nid oeddem yn gwybod ble i droi. Mae Canolfannau Mi fedraf yn rhoi lle i fynd pan fydd unigolion angen rhywun i siarad â nhw, a byddwn wedi dymuno cael lle fel hyn pan oeddem ei angen.
"Mae helpu eraill yn deimlad sy'n rhoi cymaint o foddhad. Pan fydd unigolion yn dod i siarad â ni, maen nhw'n gallu bod yn bryderus ac yn anhapus iawn. Mae'n hyfryd gwylio'r gwahaniaeth rhwng yr amser pan fyddan nhw'n dod i mewn ac yna'n gadael.
"Weithiau, dim ond sgwrs a phaned sydd eu hangen ar unigolion i wneud gwahaniaeth yn eu bywydau, ac mae'r ffaith bod gennyf i ran yn hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr i mi hefyd. Mae'n rhoi gymaint o foddhad ar gymaint o lefelau gwahanol, ac rwyf wir wrth fy modd.
"Rwy'n cyfarfod unigolion newydd bob amser, ac mae'r holl staff yn y Ganolfan Mi Fedraf mor gyfeillgar a chroesawus. Mae'n beth gwych i fod yn rhan ohono."