Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod y sawl sy'n aros am apwyntiadau a thriniaeth wedi'u trefnu yn cael eu gweld cyn gyflymed â phosibl yn nhrefn blaenoriaeth glinigol.
Rydym yn gofyn i gleifion beidio cysylltu â ni, gan y bydd y gwasanaeth yn cysylltu â nhw'n uniongyrchol am eu hapwyntiad neu eu triniaeth.
Ymddiheurwn am yr arosiadau hirach y mae cleifion yn eu profi ond bydd yn cymryd cryn dipyn o amser i'n rhestrau aros ddychwelyd i lefelau cyn COVID ac yn anffodus, bydd llawer o gleifion yn parhau i wynebu arosiadau hir am driniaeth.
Er mwyn helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol, rydym yn gweithio gyda darparwyr preifat SHS Partners i leihau ein rhestrau aros.
Mae cleifion Llawfeddygaeth Gyffredinol, Wroleg, y Glust, y Trwyn a'r Gwddf, y Genau a'r Wyneb a Gynaecoleg yn cael cynnig apwyntiad yn nhrefn blaenoriaeth glinigol a hyd arhosiad.
Rydym yn cynnig mwy o weithredoedd llawfeddygol orthopedig ar draws Gogledd Cymru er mwyn sicrhau bod y cleifion sydd wedi bod yn aros hiraf a'r cleifion sydd â'r anghenion clinigol mwyaf brys yn cael eu trin cyn gyflymed â phosibl. Rydym yn deall pa mor ofidus y gall hyn fod i'r sawl sy'n aros am lawdriniaeth a byddwn yn defnyddio ein capasiti i'r eithaf trwy gynyddu defnydd o'n theatrau llawdriniaethau yn Ysbyty Abergele. Mae hyn yn ogystal â'r nifer cynyddol o weithredoedd yr ydym yn eu cynnig yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Llandudno.
Gwybodaeth am Gwasanaethau Ysbyty ar draws Gogledd Cymru.
Os oes angen unrhyw gymorth neu gyngor arnoch, cysylltwch â'n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS).