Neidio i'r prif gynnwy

Wroleg

Arbenigedd llawfeddygol sy'n cynnwys rhoi diagnosis a thrin clefydau sy’n ymwneud â’r arennau, wreter, y bledren, y prostad ac organau atgenhedlu gwrywod yw Wroleg. Mae'n arbenigedd lle rydym yn rhoi diagnosis ac yn trin cleifion sydd â chanser, cerrig, heintiau, anawsterau wrinol, anawsterau codiad a thanffrwythlondeb. Rydym yn gweld ystod eang o gleifion o'r ddau ryw, ac o bob grŵp oed yn cynnwys plant hyd at yr henoed. 

Mae Wroleg wedi profi i fod yn un o'r arbenigeddau llawfeddygol mwyaf arloesol, gyda thechnegau endosgopig a thechnoleg ffibr-optig arloesol o’r radd flaenaf (llawfeddygaeth leiaf mewnwthiol). Yn ychwanegol, Wroleg oedd un o'r arbenigeddau cyntaf i ddefnyddio llawfeddygaeth "twll clo" fel mater o drefn, yn ogystal â llawfeddygaeth robotig ar gyfer achosion cymhleth. Yn bwysicaf oll, mae'r rhan fwyaf o'r triniaethau modern ar gael yn un o'r tri ysbyty yng Ngogledd Cymru. Mae gan bob ysbyty fynediad at gyfleusterau diagnostig canser y prostad modern, yn cynnwys sganiau MRI Aml-barametrig a biopsiau mapio Templed Trawsberineol. Mae Wrecsam yn ganolfan arbenigol ar gyfer llawfeddygaeth cerrig cymhleth (Laserau a PCNL), llawfeddygaeth ymataliad cymhleth, androleg  (prosthesis pidynnol) a llawfeddygaeth prostad anfalaen (HOLEP, iTIND, Urolift, Rezum).

Mae Wroleg yn arbenigedd prysur, cyffrous sydd wastad yn datblygu lle mae’r rhan fwyaf o'n gwaith yn cael ei wneud yn yr adran i gleifion allanol neu'r ardal dydd ar gyfer arosiadau byr. Mae angen triniaethau cleifion mewnol mwy cymhleth ar nifer fechan o gleifion.