Neidio i'r prif gynnwy

Llawfeddygaeth y Genau a'r Wyneb

Mae llawfeddygaeth y Genau a’r Wyneb yn ymwneud ag ystod eang o glefydau, anafiadau a namau ar y pen, gwddf, wyneb, genau a’r meinwe caled a meddal yn y geg a’r wyneb.

Mae hyn yn cynnwys anomaleddau datblygiadol ar yr wyneb yn cynnwys gwefus a thaflod hollt, trawma i’r wyneb a llawfeddygaeth angenrheidiol i reoli malaenedd y genau a’r wyneb.

Mae cwmpas llawfeddygaeth y genau a’r wyneb wedi ehangu dros y 15 mlynedd diwethaf, ac mae’n dal i ddatblygu.  Mae ystod eang o driniaethau’n cael eu gwneud, o lawdriniaethau gweddol fychan i lawfeddygaeth gymhleth ar y pen a’r gwddf.  

Mae gan feddygon ymgynghorol y genau a’r wyneb gyfuniad o hyfforddiant meddygol, deintyddol a llawfeddygol sy’n adlewyrchu natur eang y gwaith a wneir gan yr arbenigedd.