Mae llawer o bethau a all effeithio ar sut mae plentyn neu unigolyn ifanc yn teimlo, fel:
Awgrymiadau defnyddiol:
Strategaethau a all helpu:
Mapio emosiynau ar gyfer sefyllfaoedd - mae'n hawdd cymryd arnoch fod eich plentyn yn deall sut mae'n teimlo a pham ond efallai nad dyma'r achos bob tro. Gall mapio emosiynau ar gyfer sefyllfaoedd bob dydd i'ch plentyn ei helpu i ymagweddu'r geiriau yr ydych yn eu defnyddio i'r teimladau y mae'n ei brofi e.e. "Gallaf ddweud dy fod yn hapus iawn am....", "Rwy'n gwybod dy fod yn teimlo’n flin oherwydd..."
Mae'r raddfa 5 pwynt yn ffordd weledol iawn o weld pa mor dda mae'ch plentyn yn gallu adnabod ei deimladau a'r pethau sy'n cael effaith ar sut mae'n teimlo o ddydd i ddydd. Y syniad yw eich bod yn dechrau mapio sefyllfaoedd ar y raddfa o 1 i 5 lle mae 1 yn cynrychioli pethau y mae'ch plentyn yn ei fwynhau, yn gwneud iddo deimlo'n ddiogel neu'n ddigynnwrf, hyd at 5 sef y pethau sy'n arwain at eich plentyn yn cael 'pwl o dymer drwg', a'i wneud yn flin neu'n drallodus iawn. Mae'r profiad o wneud hyn yn wahanol i bawb. Gall rhai pobl ifanc fod yn fewnweledol iawn i'r hyn sy'n gwneud iddynt deimlo rhyw ffordd benodol, ond efallai bydd angen llawer mwy o gymorth ar eraill i geisio datrys hyn. Mae angen i chi gael dealltwriaeth sylfaenol o'r emosiynau craidd hapus, trist, blin a phryderus cyn i chi roi cynnig ar y raddfa 5 pwynt.
Mae stribedi comig yn offer gweledol gwych a allwch ei ddefnyddio i helpu cefnogi dealltwriaeth unigolyn ifanc o sut roedd yn teimlo a sut roedd eraill yn y rhyngweithiad wedi teimlo hefyd. Gall defnyddio dynion ffyn, swigod siarad a swigod meddwl fod yn ddefnyddiol iawn i wneud y broses o siarad am deimladau'n haws ac yn fwy syml.
Mae mesurydd teimladau yn offer gweledol da i helpu dangos ac egluro bod teimladau yn gallu codi a gostwng hefyd. Gall llawer o bobl ifanc weld graddio o fewn emosiwn yn anoddach i'w ddeall, gan fod eu profiad o deimladau ac emosiynau yn gallu bod yn fwy 'du a gwyn'. Er enghraifft efallai byddent yn mynd o fod yn teimlo'n 'iawn' i drist iawn neu'n flin yn gyflym iawn ond heb ddealltwriaeth o sut ddigwyddodd hynny. Yn debyg efallai byddent yn mynd o deimlo'n drallodus i 'iawn' yr un mor gyflym a all godi'n annisgwyl weithiau i'r rheiny o'u cwmpas.
Os nad ydych yn gwybod sut ydych yn teimlo a pham, gall defnyddio geiriau i geisio egluro hynny deimlo fel tasg amhosibl i rai pobl ifanc ac yn aml gall fod yn ffynhonnell ychwanegol o rwystredigaeth a thrallod.
Hyd yn oed os ydych yn gwybod sut ydych yn teimlo, mae gallu egluro hyn drwy ddefnyddio geiriau yn gallu bod yn anodd iawn, waeth pa mor huawdl ydych mewn sefyllfaoedd eraill. Gall hyn fod oherwydd sawl rheswm:
Bydd ffactorau eraill fel iaith a phroffil dysgu unigolyn ifanc yn chwarae rhan hefyd.
Awgrymiadau defnyddiol:
Strategaethau a all helpu:
Gall mesuryddion teimladau fod yn ffordd dda o weld sut mae unigolyn ifanc yn dehongli ystyr geiriau 'teimladau' gwahanol e.e. ar raddfa o 1 i 10 gyda 1 yn golygu 'iawn' a 10 yn golygu 'candryll' gall unigolyn ifanc ddweud 'rhwystredig' ond golygu "rwy'n flin iawn".
Mae cael dealltwriaeth a rennir am y geiriau y mae'r unigolyn ifanc yn ei ddefnyddio i fynegi ei deimladau yn bwysig iawn fel eich bod yn gwybod beth mae’n ei olygu a gallu dehongli ei gyfathrebiad yn y ffordd gywir.
Ysgrifennwch y geiriau y mae’n ei ddefnyddio a'u mapio ar y mesurydd teimladau fel y gallwch ddeall beth mae'r geiriau hynny'n ei olygu iddo.
Mae ffyrdd eraill a mwy gweledol o fynegi sut neu beth mae unigolyn ifanc yn ei deimlo nad yw'n dibynnu'n llwyr ar eiriau:
Nid oes yn rhaid i chi ei ddweud ar lafar - weithiau bydd unigolyn ifanc yn gallu ysgrifennu sut mae'n teimlo ond ni fydd yn gallu dweud wrthych wyneb yn wyneb. Mae sawl ffordd y gallwch hwyluso eich unigolyn ifanc i wneud hyn, gan ddibynnu ar ei oed e.e.
Llyfr pryderon lle gall ysgrifennu pethau sydd wedi ei gynhyrfu yn ystod y dydd y gallwch edrych arno a siarad ag ef amdano.
Gall yr unigolyn ifanc anfon neges destun atoch yn dweud sut mae'n teimlo neu ddefnyddio'r adran nodiadau ar ei ffôn.
Dim ond ychydig o syniadau yw'r rhain a bydd angen i chi weld beth sy'n gweithio orau i'ch unigolyn ifanc.
Defnyddiwch stribedi comig fel ffordd weledol o wneud synnwyr o deimladau mewn sefyllfaoedd. Weithiau mae hyn yn haws i bobl ifanc sydd â phroffiliau Niwroddatblygiadol, gan nad yw'r pwyslais cymaint ar gael sgwrs wyneb yn wyneb, sy’n gallu cynyddu'r galwadau cyfathrebu ar yr unigolyn ifanc, ac yn fwy am symleiddio cyfathrebu ar bapur. Mae hefyd yn eich caniatáu i dynnu sylw at y ffaith y gall pobl ddweud rhywbeth sy'n ymddangos i fynegi un emosiwn, ond meddwl/teimlo emosiwn arall. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn i ddatblygu mewnwelediad yr unigolyn ifanc i'r ffordd y mae'n cyfathrebu a pham e.e. "Roedd yn rhy swnllyd ac roeddet ti eisiau gadael felly mi wnes di weiddi". Unwaith mae gennych ddealltwriaeth a rennir, gallwch adeiladu ar hyn i ddatblygu defnyddio strategaethau eraill ar gyfer y tro nesaf e.e. "Y tro nesaf mae'n mynd yn rhy swnllyd wrth y bwrdd, fe gei di fynd lawr i'r ystafell eistedd am 5 munud".
Dogfennau y gellir eu llawr lwytho:
Dolenni defnyddiol: