Cyfeiriad: Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW (cliciwch yma am gyfarwyddiadau)
Uned Asesu Cleifion Allanol Mamolaeth (MOAU)
01248 363520
Uned dan arweiniad Bydwragedd (MLU) – Mae’r rhif hwn ar gyfer merched sy’n bwriadu rhoi genedigaeth ar y MLU ar ôl trafod gyda’u bydwraig.
07825 244626
Mae'r clinig hwn ar gyfer merched beichiog sydd angen barn meddyg ymgynghorol, neu sydd angen eu monitro neu ofal arbenigol, drwy apwyntiad yn unig. Mae clinigau'n cael eu cynnal yng nghlinig Cleifion Allanol Dewi Sant yn Ysbyty Gwynedd.
Cynhelir y clinigau ar:
Sut i gyrraedd:
Parciwch ym maes parcio'r Uned Mamolaeth, dilynwch yr arwyddion ar gyfer yr Uned Mamolaeth, ewch i mewn i'r prif gyntedd ac yna cymerwch y coridor cyntaf ar y chwith a dilynwch yr arwyddion ar gyfer clinig Cleifion Allanol Dewi Sant.
Unwaith rydych wedi rhoi genedigaeth, os ydych yn aros yn yr ysbyty, byddwch yn mynd i Ward Llifon. Dyma ble byddwch yn aros os ydych yn cael eich derbyn cyn i chi gael eich babi.
Ychydig o le sydd ar gael i gadw eitemau ar y ward, felly paciwch ar gyfer un noson yn unig. Gall partneriaid ddod â phethau ychwanegol i chi os ydych yn aros yn hirach.
Mae system diogelwch yn ei le ac ar ôl genedigaeth eich babi bydd tag electronig yn cael ei roi ar ffêr eich babi. Mae'n bwysig nad ydych yn gadael y ward gyda'r tag arno gan y bydd yn sbarduno system larwm.
Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma.
Sut i gyrraedd:
Parciwch ym maes parcio'r Uned Mamolaeth, dilynwch yr arwyddion ar gyfer yr Uned Mamolaeth, ewch i'r prif gyntedd yna ewch i fyny'r grisiau neu'r lifft i'r llawr cyntaf a dilynwch yr arwyddion glas i Ward Llifon.