Rydym yn gwerthfawrogi ei bod yn aml yn anodd i glinigwyr prysur a gweithwyr iechyd proffesiynol ganfod amser i ddod i ddigwyddiadau hyfforddi llyfrgell wedi'u hamserlennu. Felly, rydym yn cynnig sesiynau hyfforddi un i un ar amser a diwrnod sy'n addas i chi.
Cynigir sesiynau Gwerthuso Beirniadol i grwpiau. Fodd bynnag, os na allwch fynychu un o'r sesiynau hyn, efallai y gallwn gynnig trefniadau amgen. Cysylltwch â'ch llyfrgell iechyd leol i gael manylion am ddyddiadau ac amseroedd.
Gallwn ddysgu ystod eang o sgiliau ichi allu canfod gwybodaeth, gan gynnwys chwilio am lenyddiaeth gan ddefnyddio cronfeydd data iechyd / nyrsio / meddygol, yn ogystal ag adnoddau electronig eraill fel ClinicalKey, UpToDate, a BMJ Best Practice. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau tiwtorial ar ddefnyddio'r meddalwedd cyfeirio llyfryddol EndNote.
P'un ai ydych chi'n rhy brysur, eisiau cael budd o sgiliau ac arbenigedd y Llyfrgellwyr, neu, yn syml, eisiau gwneud yn siŵr nad ydych wedi colli unrhyw beth, gallwn gynnal chwiliadau llenyddiaeth ar eich rhan.
Noder, er mwyn defnyddio'r gwasanaeth hwn, rhaid ichi fod yn aelod cofrestredig o Lyfrgelloedd BIPBC. I ofyn am chwiliad llenyddiaeth, lawrlwythwch y ffurflen gais am Chwiliad Llenyddiaeth o'r fewnrwyd, gan roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch am eich pwnc.
Gwneir y chwiliad fel arfer o fewn 3 diwrnod gwaith neu gyfnod arall trwy gytundeb.
Hoffech chi gael sesiwn hyfforddi ar sgiliau chwilio am wybodaeth ar gyfer eich adran? Byddai ein Harweinwyr Hyfforddi ym mhob un o'r tair prif lyfrgell yn hapus i gynnig sesiynau hyfforddi a chyflwyniadau wedi'u teilwra ar ddefnyddio a chwilio adnoddau gwybodaeth i adrannau.
Os hoffech ganfod mwy am ein hadnoddau a sut i'w chwilio, yna cysylltwch â'ch llyfrgell leol.