Ymosodiad rhywiol yw unrhyw weithred rywiol nad yw unigolyn yn cydsynio iddo, neu os yw unigolyn yn cael ei orfodi iddo yn erbyn eu hewyllys. Mae'n ffurf o drais rhywiol ac yn cynnwys trais (ymosodiad sy'n cynnwys treiddiad o'r wain, anws neu'r geg), neu unrhyw droseddau rhywiol eraill, megis ymbalfalu, cusan orfodol, camdriniaeth rywiol ymysg plant neu boenydio unigolyn mewn modd rhywiol.
Ymosodiad rhywiol yw gweithred rywiol sy'n cael ei gyflawni heb gydsyniad gweithredol y dioddefwr. Golyga hyn na wnaethant gytuno i'r weithred.
Os oes rhywun wedi ymosod arnoch yn rhywiol, mae gwasanaethau ar gael a all eich helpu. Nid oes yn rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Efallai eich bod angen amser i feddwl am yr hyn sydd wedi digwydd i chi. Fodd bynnag, dylech ystyried gael help meddygol cyn gynted â phosibl, oherwydd fe allwch fod mewn perygl o feichiogrwydd neu heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI). Os ydych yn dymuno i'r heddlu ymchwilio i'r drosedd, gorau po gyntaf y cynhelir archwiliad meddygol fforensig.
Ceisiwch beidio â golchi neu newid eich dillad yn syth ar ôl ymosodiad rhywiol. Fe all hyn ddinistrio tystiolaeth fforensig all fod yn bwysig pe byddech yn penderfynu rhoi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad.
Canolfannau cyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) yw eich pwynt cyswllt cyntaf os oes rhywun wedi ymosod arnoch yn rhywiol. Maent yn cynnig cefnogaeth feddygol, ymarferol ac emosiynol. Mae ganddynt feddygon, nyrsys a gweithwyr cefnogi sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ofalu amdanoch chi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Amethyst (SARC) yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys sut mae’r gwasanaeth yn gweithio a sut i gysylltu.
Bydd y gwasanaethau canlynol hefyd yn darparu triniaeth neu gefnogaeth, ac fe allant eich cyfeirio at wasanaeth arall os oes arnoch angen help fwy arbenigol (megis SARC):