Adran Iechyd Rhyw, HIV a Chynllunio Teulu, Uned Menai, Ysbyty Gwynedd
Bydd un o'n clerciau'n nodi eich manylion ar y ffôn.
Bydd unrhyw fanylion yr ydym yn eu nodi'n gwbl gyfrinachol. Caiff eich cofnodion eu nodi a'u cadw o dan rif penodol, yn hytrach na'ch enw. Mae cofnodion adrannol a gwybodaeth gyfrifiadurol yn cael eu cadw AR WAHÂN i brif gofnodion yr ysbyty. Staff yn yr adran hon yn unig fydd â mynediad at eich cofnodion. Nid ydym yn cysylltu gyda'ch Meddyg Teulu fel arfer yn dilyn eich apwyntiad (heblaw eu bod wedi ysgrifennu llythyr cyfeirio). Felly, nid oes angen i chi bryderu am gyfrinachedd. Efallai y bydd ychydig o'r data yr ydych yn ei ddarparu yn cael ei ddefnyddio'n ddienw gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol i helpu i fonitro tueddiadau heintiau rhywiol.
O DAN 18: Edrychwch ar y wefan Sexual health services: your rights – Brook am fwy o wybodaeth am eich hawliau cyfrinachedd am wybodaeth benodol am eich hawliau wrth ddefnyddio'r gwasanaethau cynllunio teulu ac iechyd rhyw.
Byddwn hefyd yn gofyn i chi sut yr hoffech i ni gysylltu â chi gydag atgoffwyr apwyntiad (neges destun yn unig) a/neu ganlyniadau ac ati. Gall hyn fod ar y ffôn (cartref neu symudol), llythyr (pa gyfeiriad) neu os nad ydych eisiau i ni gysylltu â chi o gwbl (chi fydd yn gyfrifol am holi am eich canlyniadau).
Bydd y clerc yn gofyn i chi am wybodaeth gryno (a gall fod yn wybodaeth rywiol bersonol iawn, hyd yn oed os ydych yn ffonio am ddulliau atal cenhedlu) i'w caniatáu i gyfeirio eich galwad/priodol at yr aelod tîm mwyaf priodol ac o fewn y terfynau amser cywir.
Bydd eich apwyntiad cyntaf yn apwyntiad dros y ffôn wedi ei drefnu gyda naill ai'r nyrs neu'r meddyg. Yn ystod cyfnod COVID, mae pob un o'n hasesiadau cychwynnol yn cael eu cynnal dros y ffôn, nid ydym yn trin pobl sy'n galw-heibio. Bydd yr alwad gan rif anhysbys.
Rydym yn gofyn rhestr o gwestiynau safonol i bob claf, hyd yn oed os mai eisiau dull atal cenhedlu yn unig ydych chi. Gall y cwestiynau a ofynnwn fod yn fanwl iawn ac o natur bersonol agos-atoch (rhywiol) - beth yw eich symptomau neu bryderon, am eich partneriaid a'ch arferion rhywiol, unrhyw ymosodiadau rhywiol, dyddiadau eich mislif (benywaidd), ffordd o fyw (e.e. ysmygu, alcohol a chymryd cyffuriau) a'ch rhyw geni a'ch hunaniaeth rywiol gyfredol. Rydym hefyd yn gofyn am eich hanes meddygol cyffredinol, meddyginiaeth ac alergeddau (nid oes gennym fynediad at eich cofnodion ysbyty na Meddyg Teulu).
O DAN 18: Rydym yn gofyn cwestiynau ychwanegol am eich lles i wirio nad oes angen cymorth ychwanegol arnoch.
Ar hyn o bryd rydym yn gofyn cwestiynau COVID hefyd.
Mae'r cwestiynu manwl hwn yn ein galluogi i benderfynu ar y dewis gorau i reoli eich symptomau/pryderon - profion ar-lein (Frisky Wales) a/neu wybodaeth atal cenhedlu ar-lein ac/neu eich trin dros y ffôn (gan bostio presgripsiwn atoch os oes angen) a/neu drefnu ymgynghoriad wyneb yn wyneb yn y clinig.
Mae gennym feddygon benywaidd a gwrywaidd, fodd bynnag nid ydynt yn gweithio pob dydd yn y clinig ac felly ni allwn gadarnhau pwy fydd yn eich trin.
Os ydych yn dod i'r clinig oherwydd symptomau iechyd rhyw, bydd gofyn i chi ddadwisgo eich rhan isaf i alluogi'r archwiliad llawn a swabiau fynd rhagddynt (y tu ôl i lenni).
Gall archwiliad a swabiau fod o'ch gwain/ceg y groth (benyw), pidyn (gwryw), rectwm (y ddau), ceg (y ddau) a gofynnir am sampl wrin.
Ni ddylai cleifion gwrywaidd basio dŵr am o leiaf 1 awr cyn eu trin.
Swabiau ar gyfer clamydia, gonorrhoea, llindag/candida, Vaginosis Bacteriol a herpes.
Profion gwaed ar gyfer HIV, syffilis a hepatitis B/C.
Meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd benywaidd yn unig sy'n gweithio yn y clinig (bydd hebryngwr benywaidd yn bresennol yn ystod mewnosodiadau coil ac mae un ar gael ar gyfer triniaethau eraill pe dymunech). Efallai y bydd arsylwyr benywaidd a gwrywaidd yn bresennol (rhowch wybod i ni os fyddai'n well gennych beidio eu cael yno).
Rydym yn gallu gosod a thynnu'r ddau fath o goil, mewnblaniadau a diaffram. Mae gennym hefyd y pigiad-depo, depo y gallwch ei gymryd eich hun math 'gwasg Sayana' a thabledi atal cenhedlu amrywiol yn ein stoc.
Mae gennym ychydig o stoc meddyginiaeth yn yr adran i'w roi i chi. Rydym hefyd yn gallu ysgrifennu presgripsiwn ar gyfer naill ai fferyllfa'r ysbyty neu fferyllfeydd cymunedol (yn ddibynnol ar beth yw'r feddyginiaeth).
Caiff nifer cyfyngedig o'r profion eu cynnal yn yr adran a gallwch aros am y canlyniadau (a all gymryd hyd at 20 munud i brosesu). Mae'r rhain yn brofion wrin ar gyfer heintiau nad ydynt yn rhai rhywiol, profion beichiogrwydd, pwynt gofal profi HIV (achosion penodol yn unig) ac archwilio samplau penodol o dan ficrosgop.
Mae'r mwyafrif o swabiau a phrofion gwaed yn cael eu hanfon i’r labordy a gall gymryd hyd at 2 wythnos i'w dychwelyd. Fel arfer rydym yn aros am y canlyniadau cyn penderfynu ar y driniaeth gywir i chi. Efallai y byddwn yn gofyn i chi beidio cael rhyw tan fydd y canlyniadau'n ôl.
Byddwch yn cysylltu â chi gyda'r canlyniadau (negatif neu bositif) drwy eich dull cyswllt dewisol o fewn 2 wythnos. Cysylltwch â ni os nad ydych wedi clywed gennym am 2 wythnos.
Ni fydd y neges destun yn rhoi eich canlyniad gwirioneddol. Bydd yr opsiwn (1) uchod naill ai'n ganlyniad prawf positif neu fod angen ailadrodd prawf gan na chafodd ei brosesu'n iawn neu oherwydd bod y canlyniadau'n amhendant. Byddwch yn siarad gydag un o'n nyrsys a fydd yn egluro popeth, yn ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych a threfnu unrhyw feddyginiaeth hanfodol ac/neu apwyntiad dilynol.
Nid ydym yn gwneud prawf ceg y groth fel arfer. Bydd unrhyw brawf ceg y groth yn y clinig yn cael eu hanfon i labordy Sgrinio Serfigol Cymru a bydd yn cysylltu â chi (a'ch Meddyg Teulu) gyda'r canlyniadau, dros lythyr, mewn 2-6 wythnos. Os nad ydych wedi derbyn y canlyniadau mewn 6 wythnos, cysylltwch â'ch Meddyg Teulu, nid ein hadran.
Os yw eich canlyniad yn bositif am haint rhyw, yna hoffem i chi atal ei ledaenu i bobl eraill. Byddwn yn eich trin a'ch cynghori am sut i beidio ei basio ymlaen. Byddwn hefyd yn ceisio profi a/neu drin y rhai yr ydych wedi cael rhyw â nhw o'r blaen (fel arfer unrhyw un o fewn y 6 mis diwethaf). Byddwn ond yn cysylltu â phobl gyda'ch cydsyniad chi. Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd, ac mae rhai ohonynt yn anhysbys h.y. does dim rhaid i'r unigolyn wybod mai chi sydd â'r canlyniad positif. Bydd ein Cynghorwyr Iechyd yn siarad gyda chi i weld beth ydych chi'n dymuno ei wneud.
Os oes gennych gwestiwn pellach, gofynnwch i aelod o staff.
Diolch yn fawr