Mae'r clinig Cyflym PrEP yn cynnig gwiriad iechyd rhywiol cyflym, cyfrinachol am ddim i'r rhai nad oes ganddynt unrhyw symptomau (sydd heb sylwi ar unrhyw beth o'i le) ac i gasglu PrEP.
PEIDIWCH Â PHASIO WRIN AM O LEIAF AWR CYN I CHI GAEL EICH PROFI
Mae bwlch amser (a elwir yn ffenestr) rhwng dal haint a phan mae’n ymddangos mewn profion. Gall profi'n rhy gynnar olygu nad yw haint yn cael ei ganfod. Byddem yn argymell y bylchau amser canlynol rhwng y cyswllt rhyw diwethaf a gwneud y profion:
Os ydych o fewn cyfnod y ffenestr, efallai y cewch y profion heddiw ond rydym yn argymell eich bod yn dychwelyd ar gyfer profi eto
NID yw’r clinig cyflym yn addas ar eich cyfer os ydych:
Ymhlith y symptomau posibl mae: poen wrth basio wrin, rhedlif o'r pidyn neu'r pen ôl, poen neu chwydd yn y ceilliau, rhedlif anarferol o'r wain, lympiau, chwyddiadau, pothelli ar yr organau cenhedlu.
Dim ond cwestiynau sylfaenol y gall y gweithwyr cymorth gofal iechyd eu hateb ac mae’r wybodaeth y gallant roi i chi yn gyfyngedig. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon penodol na all y gweithwyr cymorth gofal iechyd eu hateb, rydym yn eich cynghori i drefnu apwyntiad i weld nyrs neu feddyg.
Canlyniadau
Os bydd unrhyw ganlyniadau positif o’ch profion byddwch yn derbyn neges destun yn gofyn i chi ein ffonio fel y gallwn drafod eich canlyniadau a threfnu triniaeth.