Nid yw'r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol yn wasanaeth sy'n ymyrryd mewn argyfwng. Gwybodaeth am ein Gwasanaethau Lleol gan gynnwys GIG 111 Cymru.
Diweddariad: Cyflwyno Ffurflen Atgyfeirio Newydd ar gyfer Gwasanaethau Niwroddatblygiadol i Blant.
Gwasanaethau Niwroddatblygiadol plant ar draws rhanbarth Gogledd Cymru (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) wedi diweddaru eu ffurflenni atgyfeirio i sicrhau eu bod yn gyfoes â'r gofynion cyfredol. Bydd y ffurflenni newydd yn cael eu cyflwyno ar y 1af o Dachwedd, 2024.
Rydym yn deall y gall trosglwyddo i’r ffurflenni newydd gymryd ychydig o amser i ddod yn rhan o bractis arferol, ac am gyfnod o ddau fis, mae disgwyl y bydd rhywfaint o groesiad rhwng y defnydd o’r hen ffurflenni atgyfeirio ac y rhai newydd. Fodd bynnag, nodwch, o’r 1af o Ionawr 2025, dim ond y ffurflen atgyfeirio newydd y byddwn yn ei derbyn.
Datblygiad yr ymennydd yw ystyr Niwroddatblygiad. Mae llawer o elfennau a all effeithio ar ddatblygiad ein hymennydd. Gall geneteg chwarae rôl allweddol yn hyn, ond weithiau gall elfennau amgylcheddol gael effaith hefyd.
Fel pobl, mae pawb ohonom ni'n amrywio a bydd ein hymennydd yn datblygu'n wahanol. Bydd llawer ohonom yn rhannu nodweddion cyffredin sy'n gysylltiedig â chyflyrau niwroddatblygiadol penodol, ond ni fydd hynny'n golygu bob amser fod arnom ni angen asesiad a/neu gymorth. Efallai bydd angen asesiad pan fydd hi'n amlwg fod effaith sylweddol ar ein dysgu, ein perthnasoedd, ein hiechyd emosiynol a chorfforol, a/neu ein cyfleoedd mewn bywyd.
Mae'n bwysig nodi y ceir llawer o resymau dros ddathlu'r rhain ohonom ni sy'n dehongli'r byd yn wahanol, sy'n cynnig safbwynt gwahanol, sydd â set wahanol o sgiliau ac sy'n defnyddio dulliau cyfathrebu gwahanol. Nid yw bod yn niwroamrywiol yn rhywbeth negyddol. Yr elfen bwysicaf yw sicrhau bod y sawl sy'n agos atoch chi yn oddefgar ac yn gefnogol ac yn eich derbyn chi, a'ch bod yn gweld gwerth ynoch chi eich hun gan wybod beth allwch ei gyflawni!
Cysylltwch â'ch gwasanaeth lleol i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal.
Ardal y Canol: Conwy a Sir Ddinbych Rhif ffôn: 03000 850 031
Ardal y Dwyrain: Wrecsam a Sir y Fflint Rhif ffôn: Wrecsam- 03000 848 152 a Sir y Fflint - 03000 859 112
Ardal y Gorllewin: Gwynedd ac Ynys Môn Rhif ffôn: 03000 851 641
Os ydych wedi cael apwyntiad rhithwir, ewch i'n tudalennau Clinig Rhithwir Niwroddatblygiadol
Mae'n bwysig i chi wybod fod ein hamseroedd aros yn hir iawn, yn anffodus. Efallai bydd angen aros hyd at 3 blynedd cyn gall eich plentyn gael ei apwyntiad cyntaf. Rydym ni'n gweithio'n galed i leihau hyn, ond dyna'r sefyllfa bresennol yn achos ein Bwrdd Iechyd.
Os hoffech sgwrsio â'n Tîm Profiadau Cleifion am y gwasanaeth rydych wedi'i gael (boed yn gadarnhaol neu negyddol), rydym yn awyddus iawn i gael adborth gennych chi, oherwydd fe wnaiff eich safbwyntiau, eich barn a'ch profiadau ein cynorthwyo i wella ein gwasanaethau.
Cysylltwch â:
BCU.CAMHSNeuroPEQueries@wales.nhs.uk
Sylwer mai cyfeiriad e-bost i gysylltu â'r Arweinwyr Profiadau Cleifion yw hwn; nid yw'n ddull o gysylltu'n uniongyrchol â'r Timau Niwroddatblygiadol. Peidiwch ag anfon gwybodaeth am gyfeiriadau neu achosion i'r cyfeiriad hwn, oherwydd ni chaiff hynny ei ailgyfeirio at wasanaethau eraill. Os dymunwch gysylltu â'ch Gwasanaeth Niwroddatblygiadol, ffoniwch y gwasanaeth gan ddefnyddio'r manylion cysylltu yn adran cysylltiadau'r dudalen we.
Yn dilyn yr asesiad, a fyddech cystal â threulio ychydig funudau'n rhoi eich adborth am eich profiad?