Gwnaethom ni ofyn i blant a phobl ifanc, ‘Beth yw Caredigrwydd’?
Rhinweddau a Gwerthoedd Caredigrwydd:
- Bod yn ofalgar a gofalu am bobl
- Bod yn gefnogol
- Bod yn barchus
- Bod yn glên
- Bod yn gariadus
Gweithredoedd Caredigrwydd:
- Bod yn gymwynasgar a helpu eraill
- Teimlo’n hapus
- Gweithredoedd caredigrwydd ac agweddau penodol
- Rhoi i eraill a rhannu
- Grymuso a chefnogi hyder
Yr hyn sy’n bwysig:
- Mae gweithredoedd penodol o garedigrwydd yn bwysig i blant iau megis hoffter gofalgar a chorfforol megis cofleidio, fodd bynnag, mae'n well gan bobl ifanc hŷn fod y gweithredoedd hyn yn cynnwys moesau, siarad, gwrando a theimlo'n hapus.
- Mae plant a phobl ifanc eisiau cael eu parchu ac eisiau bod yn barchus. Mae ymddygiad modelu yn helpu pawb i werthfawrogi ei gilydd.
- Bod yn agored i newid a chynnwys pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau.
- Mae plant a phobl ifanc eisiau rhannu gweithredoedd corfforol, cymdeithasol ac emosiynol o garedigrwydd ag eraill. Mae hyn yn cynnwys deall a dysgu, hapusrwydd ac empathi. 'Ni allwch arllwys o gwpan gwag'
- Mae plant a phobl ifanc yn gwerthfawrogi amser ag eraill. Trwy roi o’n hamser, gallwn ni ddangos ein cefnogaeth.
Yr hyn a wnaeth i ni feddwl: Roedd cymaint o blant a phobl ifanc yn cydnabod caredigrwydd trwy iaith y corff ac ymddygiad di-eiriau a chiwiau. Gwnaeth i ni feddwl... pan rydym ni’n edrych ar ein horiawr yn ystod sesiwn, neu’n edrych ar ein ffonau..... mae eraill yn sylwi ar hynny!! Atgyfnerthodd i ni pa mor bwysig yw bod yn bresennol yn y foment a mwynhau'r amser sydd gennym ni gyda phobl ifanc, gan gydnabod mai ein braint ni ydyw.