Gwnaethom ni ofyn i blant a phobl ifanc, ‘Beth sy’n gwneud oedolyn da’?
Mae Rhinweddau a Gwerthoedd ‘Oedolyn Da’ yn cynnwys:
- Bod yn garedig, yn gariadus a gofalgar
- Dangos aeddfedrwydd a chysondeb
- Bod yn gefnogol, yn feithringar a diogel
- Bod yn rhywun y gellir ymddiried ynddo sy’n grymuso, sy’n credu, sy’n dangos empathi ac sy’n cydnabod cryfderau
- Bod yn gyfrifol
- Bod yn hwyliog, hapus a phositif
Gweithredoedd ‘Oedolyn Da’:
- Y gallu i gefnogi dysgu drwy egluro a thorri gwybodaeth i lawr i gamau llai>
- Dangos parch
- Gwrando
- Cefnogi anghenion sylfaenol
Yr hyn sy’n bwysig:
- Mae plant a phobl ifanc eisiau teimlo’n ddiogel o amgylch oedolion y maent yn cysylltu â hwy. Mae hyn yn cynnwys agweddau o ymddiriedaeth, fodd bynnag, mae angen hefyd lefel o aeddfedrwydd a chyfrifoldeb i gefnogi eu hanghenion.
- Mae plant a phobl ifanc yn disgrifio ymddiriedaeth fel gweithredoedd y mae oedolion yn eu cymryd i ddangos eu bod yn ddibynadwy, diogel a chyfrifol. Mae hyn yn cynnwys pob agwedd o feithrin, grymuso a diogelwch ond hefyd sut yr ydym ni’n gwrando ac yn ymgysylltu â hwy fel oedolion y gellir ymddiried ynddynt.
- Mae plant a phobl ifanc eisiau i oedolion fod yn garedig, yn gariadus a gofalgar, gyda phwyslais arbennig ar gredu ynddynt, yn ogystal â’u cydnabod a dangos empathi.
- Grymuso
- Mae plant a phobl ifanc yn disgrifio oedolyn da fel rhywun sy’n eu cefnogi ac sy’n meithrin eu hunigolrwydd ac sy’n parchu gwahaniaethau fel cryfderau.
- Mae plant a phobl ifanc yn disgrifio’n glir beth yw eu disgwyliadau o ran oedolyn da ac maent yn defnyddio hyn mewn ffordd i egluro sut mae perthnasau’n dod yn ddwyochrog. Os bydd oedolion yn dangos hynny, bydd plant a phobl ifanc yn dynwared yr ymddygiad hwn.
Yr hyn a wnaeth i ni feddwl: Siaradodd plant a phobl ifanc mewn ffordd mor gadarnhaol am oedolion a oedd yn gallu bod yn hwyliog a brwdfrydig a’r rhai a ddangosodd rhyngweithiad corfforol cadarnhaol drwy gofleidio neu gyffwrdd â llaw. Gwnaeth i ni feddwl am ba mor hawdd yr oedd i ni fel gweithwyr proffesiynol i wneud hyn. A ydym ni bob amser yn cyflwyno’r ochr hon yn y gwaith?