Neidio i'r prif gynnwy

Negeseuon i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau

Gwnaethom ni ofyn i blant a phobl ifanc, ‘Pa negeseuon fyddech chi’n ei rhoi i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau’?

Dywedasant wrthym ni:

  • Gwrandewch – mae barn yn bwysig/dylanwadu ar benderfyniadau
  • Cysur, cefnogwch, credwch ynddynt a rhowch o’ch amser
  • Trin yn gyfartal, gweithio gyda’n gilydd a pharch
  • Siaradwch gyda phobl ifanc a cheisiwch eu cynnwys
  • Ysgogwch a darparwch gyfleoedd
  • Tegwch, amynedd
  • Gwnewch ddewisiadau da
  • Modelwch ymddygiad da/ysbrydolwch bobl ifanc

Gydag addewid o:

  • Ymrwymiad
  • Ymdrech a Brwdfrydedd

Pethau a wnaeth i ni feddwl: Mae cymaint o blant a phobl ifanc eisiau clust i wrando. Gwnaeth i ni feddwl am sut yr ydym ni fel sefydliad yn gweithio gyda’n gilydd i rannu’r hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei ddweud wrthym ni. Yn enwedig i'r plant hynny nad ydynt yn cael eu clywed yn aml. Gwnaeth i ni feddwl na allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain, mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd a rhannu'r negeseuon hyn fel y gallwn ni greu system sy'n gwrando.