Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n iach ac yn bositif

Gwnaethom ni ofyn i blant a phobl ifanc, ‘Beth sy’n eich cadw chi’n iach ac yn bositif’?

Mae plant a phobl ifanc eisiau:

  • Cadw’n actif – megis gweithgarwch corfforol, bod yn yr awyr agored, chwaraeon.
  • Cysylltu – Ffrindiau, teulu ac anifeiliaid anwes/anifeiliaid.
  • Cymryd sylw – diogelwch/amddiffyniad, cael y cyfle i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, cael clust i wrando.
  • Dysgu – dysgu drwy brofiadau gwahanol (dysgu ffurfiol ac anffurfiol), gwerthfawrogi dysgu a sgiliau.
  • Rhoi’n ôl – helpu eraill, canmoliaeth, undod, cymuned a charedigrwydd.

Mae plant a phobl ifanc angen:

  • Hunanofal
  • Cwsg da
  • Amser i fyfyrio
  • Gofod eu hunain
  • Cynhwysiad, tegwch, cydraddoldeb a gwaith tîm.

Yr hyn sy’n bwysig:

  • Mae cyfeillgarwch yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd y mae plant a phobl ifanc yn cysylltu â'r byd. Gall y cyfeillgarwch hwn fod gyda llawer o wahanol bobl o bob oedran ac mae cysylltiad sylweddol â gwerthfawrogi anifeiliaid/anifeiliaid anwes.
  • Mae plant a phobl ifanc yn gwerthfawrogi cymryd rhan yn eu cymunedau ac ymgysylltu ag eraill. Rhoddwyd pwyslais arbennig ar helpu a chefnogi cymunedau drwy wirfoddoli. Thema bwysig ar gyfer cadw'n bositif oedd sut yr ydym ni'n ategu ein gilydd. Mae hyn yn caniatáu i bobl ifanc gefnogi eu myfyrdod a'u cydnabyddiaeth bersonol eu hunain i fod yn nhw eu hunain a theimlo'n falch.
  • Roedd plant a phobl ifanc o bob oedran yn cysylltu lles â'r celfyddydau, crefftau a cherddoriaeth gyda'r pwyslais ar sut mae ‘datgysylltu'n fwriadol’ weithiau mor bwysig â bod gydag eraill.
  • Mae plant iau yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd clybiau penodol megis dawnsio a'r rhyddid i chwarae, tra bod pobl ifanc hŷn yn rhoi pwyslais ar chwaraeon ar gyfer eu lles. Roedd bron pob plentyn ac unigolyn ifanc yn cysylltu hyn â bod y tu allan yn eu cymunedau a bod yn rhan o dîm.
  • Mae plant a phobl ifanc yn poeni am faterion y byd ac anghenion sylfaenol megis bwyd, dilladau, diogelwch a chael digon o arian i fyw a gall hyn effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u lles.

Yr hyn a wnaeth i ni feddwl: Siaradodd plant a phobl ifanc nid yn unig am y pethau sy’n eu cadw’n iach ac yn bositif ond fe wnaethant roi rhywfaint o fewnwelediad i ni o'r hyn sy'n eu poeni nhw hefyd ac roeddem ni’n teimlo ei bod yn bwysig rhannu hyn. Mynegodd y bobl ifanc hynny eu pryderon am gael digon o fwyd gartref, bod yn gynnes a gallu fforddio dillad. Dywedodd rhai pobl ifanc wrthym ni eu bod weithiau'n poeni am fod yn ddiogel yn y parc a'r gymuned a mynegodd rhai pobl ifanc eu pryderon am faterion ehangach fel fêpio, gwleidyddiaeth, yr amgylchedd a delwedd corff.