Mae'r oerni yn cynyddu'r risg o hypothermia, yn enwedig ymysg yr henoed, yn ogystal â chynyddu'r risg o anaf fel cwympo trwy lithro ar y rhew.
Dyma gyflwr lle mae'r corff yn mynd yn beryglus o oer. Gall bod mewn amodau oer iawn am gyfnod byr ei achosi, neu fod braidd yn oer am gyfnod maith. Crynu a theimlo'n simsan yw rhai o'r symptomau buan. Mae symptomau hypothermia difrifol yn cynnwys trafferth anadlu a phwls gwan. Mae hypothermia difrifol yn bygwth bywyd ac mae angen ei drin fel achos meddygol brys.
Mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ynghylch cadw'n gynnes ac yn iach y gaeaf hwn ar gael ar wefan Age Cymru.