Neidio i'r prif gynnwy

Sut i amddiffyn eich hun rhag hypothermia

Mae'r oerni yn cynyddu'r risg o hypothermia, yn enwedig ymysg yr henoed, yn ogystal â chynyddu'r risg o anaf fel cwympo trwy lithro ar y rhew.  

Dyma gyflwr lle mae'r corff yn mynd yn beryglus o oer. Gall bod mewn amodau oer iawn am gyfnod byr ei achosi, neu fod braidd yn oer am gyfnod maith. Crynu a theimlo'n simsan yw rhai o'r symptomau buan. Mae symptomau hypothermia difrifol yn cynnwys trafferth anadlu a phwls gwan. Mae hypothermia difrifol yn bygwth bywyd ac mae angen ei drin fel achos meddygol brys.

Sut i'ch amddiffyn eich hun rhag hypothermia

  • Gwisgwch sawl haen denau o ddillad i ddal gwres y corff yn hytrach nag un haen drwchus
  • Cadwch yn gynnes yn y gwely, efallai drwy wisgo sanau gwely a rhywbeth am eich pen yn ogystal a phyjamas neu goban gynnes
  • Cofiwch wisgo het i fynd allan - mae llawer o wres y corff yn cael ei golli o'r pen
  • Bwytewch yn dda a chael o leiaf un pryd poeth y dydd
  • Yfwch ddiodydd poeth drwy gydol y dydd
  • Cynheswch eich cartref yn ddigonol a chymerwch gamau i leihau drafftiau a chadw'r gwres yn eich cartref

Mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ynghylch cadw'n gynnes ac yn iach y gaeaf hwn ar gael ar wefan Age Cymru